Dyfarnwyd CBE i Rebecca Evans yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2020.
Mae ymrwymiadau tymor 2023/24 Rebecca yn cynnwys Despina Così fan tutte a Nella Gianni Schicchi ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru a Marcellina Le nozze di Figaro ar gyfer y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden.
Mae ei huchafbwyntiau diweddar yn cynnwys y brif ran yn Rodelinda ar gyfer Opera Cenedlaethol Lloegr, Marschallin Der Rosenkavalier a rôl Nerys Price ym mhremière byd Blaze of Glory ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru, Alice Ford Falstaff yn ei hymddangosiad cyntaf i'r Teatro Real ym Madrid a Hécube mewn taith Ewropeaidd o Les Troyens Berlioz gyda'r Orchestre Révolutionnaire et Romantique dan law Dinis Sousa.
Ymhlith uchafbwyntiau ei gyrfa mae Contessa Almaviva Le nozze di Figaro, Despina, Mimi La bohème a Pamina Die Zauberflöte ar gyfer yr Opera Brenhinol; Governess The Turn of the Screw, Romilda Xerxes a Ginevra Ariodante ar gyfer Opera Cenedlaethol Lloegr a Mimi, Contessa Almaviva, Pamina, Ilia Idomeneo, Liu Turandot, Gretel Hänsel und Gretel ac Angelica Orlando ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru. Mae ei hymddangosiadau yn yr Opera Metropolitan yn cynnwys Susanna Le nozze di Figaro a Zerlina Don Giovanni; yn y Bayerische Staatsoper, Munich mae hi wedi canu Ginevra, Despina ac Ilia ac, yn y Deutsche Staatsoper, Berlin, mae hi wedi canu Despina.
Mae ymddangosiadau mewn cyngherddau yn cynnwys gwyliau Salzburg, Caeredin, Tanglewood a Ravinia ac mae hi'n westai rheolaidd yng nghyngherddau Proms y BBC. Mae hi wedi ennill Gwobr Grammy ac wedi recordio'n helaeth.
Mae Rebecca’n Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston ac yn noddwr sawl elusen, yn eu plith Shelter Cymru, Tŷ Hapus a Music in Hospitals Cymru/Wales.
Rebecca Evans CBE