Menyw fusnes anabl, ymgyrchydd dros gydraddoldeb, gwirfoddolwr toreithiog a gweithiwr elusennol; awdur, actor, cyflwynydd cyfryngau, siaradwr ysbrydoledig ac artist gyda’r byd-enwog, Mouth & Foot Painting Artists.
Mae Rosie’n aelod o lawer o sefydliadau anabledd a sefydliadau eraill, ac mae hefyd yn Is-lywydd Clwb Busnes Caerdydd, ac yn eiriolwr dros y Gofeb Thalidomid - a gysgegrwyd ym mis Mehefin 2016, sy’n coffau bywydau a chyflawniadau pobl ag amhariad yn sgil Thalidomid yn fyd-eang. Aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru; Noddwr Flamingo Chicks (ysgolion dawns cynhwysol cenedlaethol); Aelod o’r Panel Mewnwelediadau Buddiolwyr (Ymddiriedolaeth Thalidomide), a Chadeirydd Bwrdd Cynghori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Prifysgol Caerdydd.
Graddiodd Rosie o Brifysgol Caerdydd ym 1985 gyda gradd mewn Seicoleg, yna bu’n gweithio fel Swyddog Gweithredol yn y Gwasanaeth Sifil am saith mlynedd, cyn sefydlu Ymgynghoriaeth Materion Anabledd RMS ym 1995. Ym mis Mehefin 2007, cwblhaodd a chyhoeddodd ei hunangofiant - Four Fingers and Thirteen Toes – a gafodd ei ailgyhoeddi yn 2009.
Mae Rosie’n briod gydag un mab, a’i diddordebau yw mynd i’r theatr a chyngherddau, a ffotograffiaeth.
Yn 2011, Rosie oedd y cyntaf o ddim ond dau i dderbyn ‘Gwobr Seren Owain Glyndŵr’ gan Gyngor Caerdydd. Mae’r dyfyniad yn dweud, "Mae’r Wobr Seren hon yn cael ei chyflwyno fel cydnabyddiaeth gan Gyngor Caerdydd am fod yn fodel rôl rhagorol ac yn fenyw ysbrydoledig sydd wedi cysegru ei bywyd i waith gwirfoddol gyda phobl anabl a difreintiedig. Llysgennad go iawn dros Gaerdydd."
Ar ôl oes o ymgyrchu dros hawliau a chydraddoldeb i bobl anabl, dyfarnwyd OBE i Rosie yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines 2015. Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Caerdydd ym mis Gorffennaf 2017 hefyd, am “Ei Gwaith Eithriadol a’i chyfraniad i Gydraddoldeb a Hawliau Pobl Anabl”. Ym mis Rhagfyr 2018, derbyniodd Rosie Ddoethuriaeth er Anrhydedd a Chymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe, eto am ei gwaith cydraddoldeb.
Hi oedd Uchel Siryf De Morgannwg 2022-2023