Ryan Jones yw un o gapteiniaid Cymru sydd wedi ennill y mwyaf o gapiau dros ei wlad, gan arwain y tîm ar 33 achlysur. Mae’n un o lond llaw yn unig o chwaraewyr yn hanes rygbi Cymru sydd wedi ennill tair Camp Lawn.
Ganed ef ar 13 Mawrth 1981 yng Nghasnewydd, a bu’n chwarae pêl-droed iau i Bristol City fel gôl-geidwad nes ei fod yn 14 oed, gan ymuno â rygbi’r undeb yn 17 oed i fod gyda’i ffrindiau yng Nghlwb Rygbi Rhisga.
Ymunodd â’r Gweilch yn 2004 gan wneud ei ymddangosiad cyntaf rhyngwladol dros Gymru yn erbyn De Affrica ym mis Tachwedd y flwyddyn honno. Cafodd Jones ei benodi’n gapten y Gweilch ar ddechrau tymor 2007/8 a’i benodi’n gapten Cymru gan yr hyfforddwr newydd Warren Gatland yn 2008. Yn ei dwrnamaint Chwe Gwlad cyntaf fel capten, arweiniodd ei dîm i ail Gamp Lawn a dathlodd ei drydedd Camp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2012.
Ym mis Awst 2015, bu’n rhaid iddo ymddeol o’r byd rygbi oherwydd anaf i’w ysgwydd. Mae’n dal i gael ei ystyried yn ffigwr chwedlonol yn rygbi Cymru heddiw.
Wrth dderbyn ei Radd er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe, meddai Ryan Jones: “Braint o’r mwyaf yw derbyn yr anrhydedd hon gan Brifysgol Abertawe.
“Rwyf wedi cael y fraint o fod yn rhan o gymuned Abertawe ers dros ddeng mlynedd bellach ac rwy’n hynod o falch a breintiedig fy mod wedi chwarae i dimau rygbi’r Gweilch a Chymru ac wedi bod yn gapten arnynt. Ganwyd fy nhri phlentyn yn y ddinas ac rwy’n falch o alw Abertawe’n gartref.
“Rwyf wedi ceisio bod yn fodel rôl cadarnhaol erioed, nid yn unig yn fy ngweithgareddau chwaraeon ond yn y gymuned ehangach. Yn ystod fy nghyfnod yn Abertawe, rwyf wedi bod yn ffodus i ddatblygu cysylltiadau agos â’m prifysgol leol ac rwy’n deall pa mor bwysig yw’r brifysgol i’r ardal mewn cymaint o ffyrdd. Gobeithio, gyda’r anrhydedd hon, y gallaf barhau i hyrwyddo’r gwaith gwych y mae’r brifysgol yn ei wneud, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.”
Rydym wrth ein bodd mai Ryan yw Llysgennad Ymgyrch Camau Breision dros Iechyd Meddwl Prifysgol Abertawe ar hyn o bryd.