Mae Shane Mark Williams, MBE (ganwyd 26 Chwefror 1977) yn gyn-chwaraewr rygbi'r undeb yng Nghymru sy'n fwyaf enwog am ei gyfnod hir a llwyddiannus fel asgellwr i'r Gweilch a thîm cenedlaethol Cymru. Roedd yn chwarae fel mewnwr ar brydiau hefyd. Mae Shane wedi sgorio mwy o geisiau na neb arall erioed i Gymru ac mae'n bedwerydd ar restr ryngwladol prif sgorwyr ceisiau prawf rygbi'r undeb y tu ôl i Daisuke Ohata, Bryan Habana a David Campese.

Cafodd Shane ei eni yn Nhreforys yn Abertawe a'i fagu yng Nglanaman yn Nyffryn Aman. Cododd ei bêl rygbi gyntaf pan oedd yn yr ysgol gynradd. Wrth fynd i'r ysgol uwchradd yn Ysgol Gyfun Amman Valley (Ysgol Dyffryn Aman erbyn hyn), dywedwyd wrtho ei fod yn rhy fach i chwarae rygbi, felly yn lle hynny, dechreuodd chwarae pêl-droed, gan chwarae i Cwmamman United A.F.C. Yn ei ymddangosiad cyntaf i dîm iau'r clwb, bu'n rhaid i Shane chwarae yn y gôl gan nad oedd unrhyw un arall yn barod i wirfoddoli i chwarae yn y safle hwnnw. Mae cyn-hyfforddwr pêl-droed iau Shane, Alun Rees, yn ei gofio fel “gôl-geidwad gwych”, ond mae'n nodi y gallai chwarae allan ar y cae hefyd. Chwaraeodd Shane dros Cwmamman United hyd at y lefel uwch, gan chwarae rygbi’n achlysurol yn unig, ac mae'n cyfaddef mai pêl-droed oedd “ei brif gamp” ar y pryd. Fodd bynnag, ar ddiwrnod rownd derfynol Cwpan Cwmamman United, gwahoddwyd Shane i chwarae rygbi gyda'i ffrindiau yng Nghlwb Rygbi Amman United; Llwyddodd Amman United i ennill 82 o bwyntiau, gyda Williams yn sgorio pum cais.

Yn 2008, dewiswyd Shane yn Chwaraewr Rygbi'r Byd y Flwyddyn, a elwid bryd hynny yn Chwaraewr y Flwyddyn yr IRB.

Ers ymddeol o rygbi rhyngwladol yn 2012, mae Shane wedi gweithio fel cyflwynydd ar raglen rygbi'r Chwe Gwlad, Y Clwb Rygbi Rhyngwladol, ar S4C ac fel cyfrannwr ar ddarllediadau BBC, ITV a Channel 4 yn ogystal â sioeau trydydd parti fel “Inside Welsh Rugby”, gan wneud sylwadau ar rygbi ar lawr gwlad yng Nghymru.

Cafodd Shane ei ddewis i garfan y Barbariaid a fu'n chwarae yn erbyn Cymru ym mis Mehefin 2012. Yn wreiddiol, y bwriad oedd mai dyna fyddai ei ymddangosiad olaf fel chwaraewr, ond yn fuan wedi hynny arwyddodd gontract blwyddyn i chwarae yn Japan gyda Mitsubishi Sagamihara DynaBoars ym mis Mehefin 2012.

Penodwyd Shane yn Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) yn Anrhydeddau Pen-blwydd 2012 am ei wasanaeth i rygbi. Ymestynnodd ei arhosiad yn Japan sawl gwaith, gan ymgymryd â rôl chwaraewr-hyfforddwr a gwrthod cynnig gan Toulon yn 14 uchaf Ffrainc yn sgil hynny, cyn cyhoeddi'n derfynol y byddai'n dychwelyd adref ar ddiwedd tymor Uwch Gynghrair Japan 2014-15.

Ym mis Tachwedd 2016, cafodd Shane ei urddo i Neuadd Enwogion Rygbi'r Byd yn ystod seremonïau agoriadol cartref ffisegol cyntaf y Neuadd yn Rugby, Swydd Warwick.