Roedd Stan Addicott yn Gyfarwyddwr Chwaraeon a Hamdden Gorfforol ym Mhrifysgol Abertawe o 1980-2003, ar ôl cael ei benodi i’r staff am y tro cyntaf ym 1971.
Mae ganddo brofiad eang o hyrwyddo, addysgu a gweinyddu chwaraeon prifysgol ar lefel leol a chenedlaethol ac mae wedi teithio’n eang, gan weld systemau mewn gwledydd eraill.
Mae Stan wedi dangos diddordeb mawr mewn rygbi ac wedi hyfforddi timau myfyrwyr, cymunedol a chenedlaethol gan gynnwys Clwb Rygbi Abertawe a Chymru B, a bu’n hyfforddwr cynorthwyol i dîm Cymru XV hefyd. Mae’n gyn-gapten Clwb Golff Bae Langland ac yn Llywydd Clwb Rygbi Abertawe ar hyn o bryd.
Ym mis Hydref 2022 lansiodd Stan ei lyfr newydd yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin Prifysgol Abertawe. Mae (Y Lolfa) yn cyflwyno hanes y can mlynedd diwethaf o weithgarwch chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe, o’i sefydlu ym 1920 hyd at heddiw.
Wrth dderbyn ei wobr anrhydeddus, dywedodd Stan: “Rwy’n falch iawn o dderbyn y wobr er anrhydedd hon ar ôl gweld twf ac arwyddocâd datblygiadau chwaraeon yn y Brifysgol dros flynyddoedd lawer. Hefyd, i fwynhau’r cyfraniadau chwaraeon rhagorol ac ysbrydoledig y mae myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr wedi’u gwneud yn lleol, yn genedlaethol ac yn y byd ehangach. Hyn oll o fewn amgylchedd Prifysgol ofalgar sy’n ymgysylltu â’r gymuned ehangach. Mae’n anrhydedd ac yn fraint wirioneddol.”