Cafodd Syr Roderick Evans ei alw i’r Bar ym 1970 ac fe’i penodwyd yn Gwnsler y Frenhines ym 1989. Daeth yn farnwr cylchdaith ym 1992, gan wasanaethu fel barnwr preswyl yn Llys y Goron Merthyr Tudful rhwng 1994 a 1998 ac fel barnwr preswyl yn Llys y Goron Abertawe rhwng 1998 a 1999. Ym 1999 fe’i penodwyd yn Uwch Farnwr Cylchdaith a Chofnodwr Anrhydeddus Caerdydd. Penodwyd Syr Roderick yn Farnwr Uchel Lys Adran Mainc y Frenhines yn 2001 a rhwng 2004 a 2007 bu’n Farnwr Llywyddol Cymru. Ymddeolodd o’r Uchel Lys ym mis Ebrill 2013.

Daeth Syr Roderick yn aelod o Orsedd y Beirdd yn 2002 ac ers 2011 mae wedi gwasanaethu fel aelod o’r Bwrdd Parôl. Mae ganddo Gymrodoriaethau a Dyfarniadau er Anrhydedd o Brifysgolion Aberystwyth (2003), Abertawe (2007) a Bangor (2010). Yn 2015, cafodd ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae Syr Roderick Evans yn Ddirprwy Ganghellor Cyngor Prifysgol Abertawe ac mae’n aelod o Lys Prifysgol Abertawe hefyd.