Roedd Vivienne Sugar yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Abertawe rhwng 2005 a 2012. I gydnabod ei gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru cyflwynwyd Gradd er Anrhydedd iddi (LLD - Doethur yn y Gyfraith) yn 2013.

Cafodd ei geni yng Ngorseinon ond ei haddysgu yn Ysgol Gyfun Mynydd Cynffig a Phrifysgol Leeds. Ar ôl iddi ddychwelyd i Gymru, bu'n gweithio ym maes tai yng Nghasnewydd a Chaerdydd. Ym 1995, cafodd ei phenodi'n Brif Weithredwr Cyngor Dinas a Sir Abertawe a hi oedd y fenyw gyntaf yng Nghymru i ddal swydd o'r fath.

Wedi hynny, bu'n aelod o Gomisiwn Richard a adolygodd y setliad datganoli yng Nghymru; fe'i penodwyd yn Ymgynghorydd Cymru i Sefydliad Joseph Rowntree; bu'n gweithio i Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog ar wella gwasanaethau awdurdodau lleol; sefydlodd ei chwmni ymgynghori ar reoli ei hun a bu'n aelod o nifer o weithgorau Llywodraeth Cymru.

Wrth dderbyn y Radd er Anrhydedd, meddai: "mae'n anrhydedd mawr gennyf dderbyn y dyfarniad hwn. Mae gan Abertawe le arbennig yng nghalonnau pawb sy'n byw, yn astudio ac yn gweithio yma. Yn ystod cyfnod fy nghysylltiad â'r Brifysgol, mae wedi trawsnewid ei hun yn sefydliad uchelgeisiol a arweinir gan ymchwil ac sy'n cyflawni pethau mawr.

Ar ôl iddi ymddeol o waith amser llawn, penodwyd Vivienne yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Sefydliad Bevan gan gynnal ymchwil i dlodi a chyfiawnder cymdeithasol.