Mae'r Fonesig S L Heal DBE (Fox yn enedigol, ganwyd ar 20 Gorffennaf 1942) yn wleidydd Llafur Prydeinig a fu'n Aelod Seneddol dros Halesowen a Rowley Regis o 1997 tan 2010, ac yn AS cyn hynny dros etholaeth Canol Swydd Stafford o 1990 tan 1992. Gwasanaethodd fel Dirprwy Gadeirydd Cyntaf Ways and Means ac fel Dirprwy Lefarydd Tŷ'r Cyffredin o 2000 hyd nes iddi roi'r gorau i'w sedd yn y Senedd yn 2010.
Fe’i ganwyd yn Sir y Fflint yn ferch i un o weithiwr dur Shotton, John Lloyd Fox a Ruby Fox. Roedd y ddau’n gynghorwyr Llafur. Cafodd ei haddysg yn Elfed Secondary Modern School, Bwcle, sef Ysgol Uwchradd Elfed bellach, Coleg Harlech a Phrifysgol Abertawe lle dyfarnwyd BSc (Econ) iddi ym 1968.
Bu'n gweithio fel Clerc Cofnodion Meddygol yn Ysbyty Brenhinol Caer o 1957 am chwe blynedd. Yn dilyn y Brifysgol, cafodd ei chyflogi fel gweithiwr cymdeithasol mewn Canolfan Adsefydlu Cyflogaeth a hefyd mewn Ysbyty Seiciatrig. Yn ystod ei chyfnod i ffwrdd o'r Senedd bu'n gweithio fel swyddog Gofalwyr Ifanc Cenedlaethol ar gyfer Cymdeithas Genedlaethol y Gofalwyr, sef Carers UK bellach. Mae hi'n aelod o undeb y GMB.
Ymunodd â'r Blaid Lafur ym 1957 a bu'n aelod o Bwyllgor Cenedlaethol y Sosialwyr Ifanc am bedair blynedd o 1960 ymlaen. Fe'i penodwyd yn Ynad Heddwch ym 1970.
Yn 1990 cafodd ei hethol i Dŷ'r Cyffredin am y tro cyntaf yn isetholiad Canol Swydd Stafford yn dilyn hunanladdiad yr AS Ceidwadol John Heddle. Enillodd y sedd gyda mwyafrif o 9,449 gyda newid enfawr o 21% o'r Ceidwadwyr i Lafur. Collodd y sedd yn Etholiad Cyffredinol 1992 ac fe'i hail-etholwyd i'r Senedd yn Etholiad Cyffredinol 1997 yn sedd newydd Gorllewin Canolbarth Lloegr Halesowen a Rowley Regis gyda mwyafrif o 10,337 a pharhaodd yn AS yn etholiadau cyffredinol 2001 a 2005.
Yn ei chyfnod cyntaf yn y Senedd bu'n aelod o Bwyllgor Dethol Addysg. Cafodd ei dyrchafu i'r fainc flaen gan Neil Kinnock ym 1991 fel llefarydd ar iechyd a menywod. Yn dilyn ei hailethol ym 1997 fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, George Robertson ac o 1999 ymlaen i'w olynydd Geoff Hoon. Yn ystod y cyfnod hwn roedd hi'n aelod o Gynulliad Seneddol NATO.
Gwasanaethodd ar y Pwyllgor Seneddol rhwng 1998 a 2000 yn cyfarfod yn wythnosol gyda'r Prif Weinidog ar y pryd, Tony Blair. Yn 2000 fe'i penodwyd yn Ddirprwy Lefarydd y Tŷ gan barhau yn y swydd honno tan iddi ymddeol yn 2010.
Fe'i penodwyd yn Fonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2022 am wasanaeth gwleidyddol a chyhoeddus.
Priododd â Keith Heal ym 1965 ac mae ganddynt ferch a mab sy'n oedolion a phump o wyrion/wyresau.
Roedd hi'n un o sylfaenwyr yr Ŵyl Gwneuthurwyr Cadwyni Merched a darlith goffa Mary Macarthur. Mae hi'n mwynhau gwrando ar gorau meibion a garddio ac mae'n dal i fod yn weithgar mewn gwleidyddiaeth leol.