Ganwyd y Foneddiges Nicola Davies yn Llanelli. Symudodd ei theulu i Ben-y-bont ar Ogwr lle mynychodd Ysgol Oldcastle ac Ysgol Ramadeg y Merched Pen-y-bont ar Ogwr. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Birmingham. Galwyd y Foneddiges Nicola i’r Bar yn Gray’s Inn ym 1976. Ei siambrau oedd Serjeants’ Inn Chambers yn Llundain, a’i maes arbenigol oedd cyfraith feddygol.
Penodwyd y Foneddiges Nicola yn Gwnsler y Frenhines ym 1992, ac yn 2010, yn Farnwr yr Uchel Lys, Adran Mainc y Frenhines. Rhwng 2014 a 2017 roedd y Fonesig Nicola yn Farnwr Llywyddol y Gylchdaith yng Nghymru. Yn 2018 penodwyd y Fonesig Nicola i’r Llys Apêl. Hi yw’r fenyw gyntaf o Gymru i ddal pob un o’r swyddi uchod.
Mae’r Foneddiges Nicola’n un o bedwar cyd-gynullydd yr Inns of Court Alliance for Women a sefydlwyd yn 2022. Y Foneddiges Nicola oedd Trysorydd Gray’s Inn ar gyfer 2023. Hi yw’r fenyw gyntaf o Gymru i fod yn Drysorydd Inn of Court yng Nghymru a Lloegr.