Roedd yr Arglwydd Heseltine yn Aelod Seneddol ym Mhrydain o 1966 i 2001. Bu'n Weinidog Cabinet mewn gwahanol adrannau rhwng 1979 a 1986 a rhwng 1990 a 1997. Bu'n Ddirprwy Brif Weinidog rhwng 1995 a 1997. Ef yw sylfaenydd yr Haymarket Group, cwmni cyfryngau preifat.
Yn 2015 penodwyd yr Arglwydd Heseltine gan y llywodraeth fel cynghorydd i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol. O fewn y cylch gwaith hwn bu'n Gadeirydd Comisiwn Twf Aber Afon Tafwys 2050, ac yn gyd-gadeirydd y Panel Cynghori ar Adfywio Ystadau. Cyhoeddodd adroddiad annibynnol yn gwneud argymhellion i ddatblygu ardal Dyffryn Tees ymhellach ac roedd hefyd yn Gomisiynydd i'r Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol. Ym mis Hydref 2012 cyhoeddodd No Stone Unturned in Pursuit of Growth, adolygiad annibynnol ynghylch sut mae'r sectorau cyhoeddus a phreifat yn y DU yn gweithio gyda'i gilydd i greu cyfoeth. Daeth ei waith i'r llywodraeth i ben yn 2017. Yn 2018 cyhoeddodd ei ateb i Bapur Gwyrdd Strategaeth Ddiwydiannol y llywodraeth – Industrial Strategy gan Michael Heseltine - ac yn fwyaf diweddar cyhoeddodd adroddiad ar ddatganoli – Empowering English Cities. Ym mis Mehefin 2019 daeth yn Llywydd The European Movement.
Mae wedi ysgrifennu llyfrau ar Ewrop a'i hunangofiant gwleidyddol, Life in the Jungle. Cyhoeddwyd ei lyfr diweddaraf, ar y cyd â'r Fonesig Heseltine, Thenford: The Creation of an English Garden, ym mis Hydref 2016. Mae'r Arglwydd Heseltine yn arddwr brwdfrydig ac yn Is-lywydd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol.