Bu Dr Barry Morgan, sydd wedi bod yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Abertawe ers 2009, yn Archesgob Cymru am bron i 14 mlynedd ac yn Esgob Llandaf am 17 nes iddo ymddeol yn 2017. Roedd wedi bod yn Esgob Bangor am saith mlynedd cyn hynny.

Ganed ef yng Ngwauncaegurwen, ac enillodd radd mewn hanes o Goleg Prifysgol Llundain ym 1969; gradd ddiwinyddiaeth o Goleg Selwyn Caergrawnt ym 1971, ac ym 1986, Doethuriaeth o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor fel y’i gelwid bryd hynny. Hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yn Westcott House Caergrawnt. Mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o gyd-destunau gweinidogol; mewn gweinidogaeth plwyf, fel darlithydd coleg prifysgol a diwinyddol a chaplan prifysgol, fel Archddiacon, Cyfarwyddwr Ymgeiswyr am Urddau ac fel Swyddog Addysg Gweinidogol Parhaus. Gwasanaethodd ar Bwyllgor Canolog Cyngor Eglwysi’r Byd a Phwyllgor Sefydlog Archesgobion y Cymundeb Anglicanaidd. Mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau a llyfrau, gan gynnwys astudiaeth o waith y bardd Cymreig R S Thomas. Mae’n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, bu’n Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Cymru rhwng 2006 a 2023, ac mae’n Gymrawd sawl Prifysgol arall yng Nghymru, ac mae dwy ohonynt wedi rhoi doethuriaethau anrhydeddus iddo.

Mae wedi gwasanaethu fel Llywydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, wedi cadeirio ymchwiliad ar ran Shelter Cymru ar ddigartrefedd yng Nghymru, wedi cadeirio Pwyllgor Safonau a Moeseg Cyngor Dinas Caerdydd ac mae’n Farchog Urdd Sant Ioan. Ym mis Gorffennaf 2020 fe’i penodwyd yn Gomisiynydd y Comisiwn Penodiadau Barnwrol sy’n gyfrifol am benodi Barnwyr ac aelodau Tribiwnlys yn y Deyrnas Unedig.