Mae ei Ardderchowgrwydd yr Athro Dr Saud bin Nasser Al Riyami yn un o gyn-fyfyrwyr mwyaf nodedig Prifysgol Abertawe, yn Llywydd uchel ei barch Prifysgol y Swltan Qaboos yng ngwladwriaeth Oman.

Enillodd Dr Riyami ei radd gyntaf mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Ain Shams, yr Aifft, ac ar ôl graddio, fe'i penodwyd yn Bennaeth yr Adran Cymhorthion Addysgu a Labordai Gwyddonol, ac yna'n Gyfarwyddwr Arholiadau yn Rhanbarth Mewnol y Swltaniaeth.

Ymunodd â'r hyn a oedd bryd hynny yn Goleg Prifysgol Abertawe ac ym 1989, enillodd ei MA mewn Dulliau Addysgu Daearyddiaeth gydag anrhydedd dosbarth cyntaf. Yna ymunodd â Phrifysgol y Swltan Qaboos (SQU) fel hyfforddwr yn y Coleg Addysg.  Astudiodd am ei PhD, mewn Dulliau Addysgu Astudiaethau Cymdeithasol, ym Mhrifysgol Pittsburgh, gan ddychwelyd i SQU wedyn.  Yn 2000, fe'i penodwyd yn Ddirprwy Lywydd ym Mhrifysgol y Swltan Qaboos ac mewn llai na dwy flynedd, ym mis Mai 2001, daeth yn Llywydd y brifysgol.

Yn 2008, drwy Archddyfarniad Brenhinol, fe'i penodwyd yn Ymgynghorydd Academaidd ar gyfer Cyngor Addysg Uwch Oman.

Fel Llywydd SQU, mae Dr Riyami wedi cymeradwyo llawer o gynlluniau astudio israddedig ac ôl-raddedig newydd ar draws colegau'r brifysgol; mae wedi cymeradwyo sefydlu canolfannau ymchwil yn y Brifysgol a chychwyn adeiladu canolfan ddiwylliannol newydd yn y Brifysgol. Mae wedi dangos uchelgais a gweledigaeth bellgyrhaeddol, ar ôl hwyluso nifer mawr o brosiectau ymchwil strategol, gymhwysol ac academaidd, gan gynnwys prosiectau ymchwil ar y cyd â nifer o brifysgolion; a llofnodi memoranda cyd-ddealltwriaeth rhwng SQU a phrifysgolion rhyngwladol a sefydliadau ymchwil cyfatebol - yn wir, ar ôl cael ei benodi'n Llywydd SQU, Abertawe oedd y brifysgol ryngwladol gyntaf y llofnodwyd memorandwm cyd-ddealltwriaeth â hi. Mae wedi hwyluso adeiladu colegau a chanolfannau prifysgolion, gan gynnwys y Coleg Nyrsio, rhandy i'r Coleg Peirianneg, a phrosiectau adeiladu ar gyfer ysbyty'r brifysgol gan gynnwys yr adeilad Meddygaeth Teulu a'r Clinig Deintyddol a Geneuol, ac mae wedi sicrhau adsefydlu ac adnewyddu llawer o adenydd a chlinigau yn yr ysbyty.

Rhan o'i uchelgais oedd datblygu a chynnal gwell sianeli cyfathrebu i boblogaeth y myfyrwyr ac yn bersonol bu'n arwain pwyllgor a oedd yn canolbwyntio ar gyfathrebu â myfyrwyr, a gyfrannodd yn fawr at sefydlogrwydd myfyrwyr yn SQU.

Penodwyd Dr Riyami yn Aelod o Gyngor y Wladwriaeth gan Ei Fawrhydi Swltan Oman drwy'r Archddyfarniad Brenhinol ym mis Hydref 2014 am ei gyfraniad rhagorol at Brifysgol y Swltan Qaboos a'r Sector Addysg Uwch yn Rhanbarth y Gwlff.

Mae llwyddiant SQU o dan Dr Riyami o ganlyniad i raddau helaeth i'w gyfranogiad personol a'i ddiddordeb yn y modd y mae'r brifysgol yn gweithredu ar bob lefel, a'i ymrwymiad llwyr i wella ymarfer ysgolheigaidd.  Mae wedi ymroi ei yrfa i ragoriaeth addysgu ac academaidd ac mae'n gwbl addas ac yn haeddiannol iddo dderbyn y dyfarniad er anrhydedd hwn fel cyn-fyfyriwr yn y brifysgol hon.