Mae'r Athro Shneiderman wedi chwarae rhan hollbwysig ym maes 'defnyddioldeb cyffredinol', sy'n sicrhau mynediad effeithiol a boddhaol at wasanaethau digidol i bawb, ni waeth beth yw eu galluoedd corfforol, gwybyddol neu echddygol.
Ef yw Cyfarwyddwr Sefydlol y Labordy Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron ym Mhrifysgol Maryland, ac mae wedi bod yn ymweld â chyfrifiadurwyr yn Abertawe a’u hannog ers sawl blwyddyn, yn enwedig yn ddiweddar gydag agoriad y Ffowndri Gyfrifiadol gwerth £31 miliwn ar Gampws y Bae, a fydd yn esiampl fyd-eang ar gyfer dyfodol gwyddor drawsffurfiol.
Mae'r Athro Shneiderman wedi ysgrifennu rhai o'r llyfrau a ddarllenir amlaf ym maes rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron, gan gynnwys y llyfr mawr ei fri ”Leonardo’s Laptop” yn 2002, sy'n ystyried sut y gellir diwallu anghenion â thechnolegau cyfrifiadurol newydd.
Mae ei gyfraniadau ym maes cyfrifiadureg wedi'u cydnabod â dyfarniadau sy'n cynnwys Gwobr Cyflawniad Oes ACM SIGCHI yn 2001 a Gwobr Gyrfa mewn Delweddu’r IEEE yn 2012.
Wrth dderbyn ei ddyfarniad, dywedodd yr Athro Shneiderman: "Mae pwysigrwydd cynyddol Prifysgol Abertawe a'r Ffowndri Gyfrifiadol newydd yn arwydd ei bod bellach ymhlith y prifysgolion gorau oll. Yn y cyd-destun hwn, mae'n hynod foddhaus derbyn y ddoethuriaeth er anrhydedd hon am fy ngwaith ym meysydd rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron a delweddu gwybodaeth, sydd wedi'u halinio'n dda â chyfeiriad ymchwil y Brifysgol."