Christopher Evans yw Athro Orthopaedeg John a Posy Krehbiel ac mae’n Athro yn yr Adrannau Meddygaeth Gorfforol ac Adsefydlu a Meddygaeth Foleciwlaidd yng Nghlinig Mayo UDA, lle mae’n Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Meddygaeth Adsefydlu. Mae’n Athro Emeritws Llawfeddygaeth Orthopaedig Maurice Müller yn Ysgol Feddygol Harvard hefyd.

Mynychodd yr Athro Evans Brifysgol Abertawe, gan raddio gyda B.Sc (anrhydedd dosbarth cyntaf) mewn Geneteg a Microbioleg a PhD mewn Biocemeg. Cwblhaodd gymrodoriaeth ôl-ddoethurol mewn Bioleg Foleciwlaidd ym Mhrifysgol Rydd Brwsel, Gwlad Belg. Oddi yno cafodd swydd gyfadran iau yn yr Adran Llawfeddygaeth Orthopaedig yn Ysgol Feddygol Prifysgol Pittsburgh, gan weithio ei ffordd drwy’r rhengoedd i ddod yn Athro Henry Mankin cyntaf Llawfeddygaeth Orthopaedig ac Athro Geneteg a Biocemeg Foleciwlaidd. O Pittsburgh symudodd i Ysgol Feddygol Harvard, yn gyntaf fel Athro Robert Lovett mewn Llawfeddygaeth Orthopaedig, ac yn ddiweddarach yn Athro Maurice Müller mewn Llawfeddygaeth Orthopaedig. Yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Pittsburgh enillodd M.A. yn Hanes ac Athroniaeth Gwyddoniaeth. Wedi hynny dyfarnwyd gradd D.Sc. iddo gan Brifysgol Cymru ac mae ganddo radd M.A. er anrhydedd o Brifysgol Harvard.

Mae’r Athro Evans yn defnyddio ei gefndir mewn bioleg celloedd a moleciwlaidd i astudio problemau clinigol sy’n ymwneud ag esgyrn a chymalau, gyda phwyslais ar ddatblygu therapïau newydd y gellir eu troi’n dreialon clinigol cam cynnar. Mae wedi datblygu therapi genynnau ar gyfer osteoarthritis a gwblhaodd dreial clinigol dynol Cam I yn ddiweddar yng Nghlinig Mayo; erbyn hyn mae’n destun treial Cam Ib gan gwmni therapi genynnau arthritis, Genascence Corp., a sefydlodd ar y cyd. Mae ef a’i gydweithwyr yn datblygu therapïau genynnau hefyd i hyrwyddo iachâd esgyrn, cartilag, tendon a’r ddisg ryngfertebrol.

Mae’r Athro Evans yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, y Gymdeithas Gemeg Frenhinol a Choleg Brenhinol y Patholegwyr; Cymrawd Anrhydeddus Prifysgol Abertawe ac yn Gymrawd cychwynnol Ymchwil Orthopaedig Rhyngwladol a’r Gymdeithas Ymchwil Orthopaedig, lle bu’n Llywydd rhwng 2005 a 2006. Mae hefyd yn aelod anrhydeddus o Gymdeithas Orthopaedig Croatia. Mae’r Athro Evans wedi derbyn nifer o wobrau ymchwil gan gynnwys Gwobr Kappa Delta Academi Llawfeddygon Orthopaedig America, Gwobr Nicolas Andry Cymdeithas Llawfeddygon Esgyrn a Chymalau a gan y Gymdeithas Ymchwil Orthopaedig, Gwobr Arthur Steindler am gyfraniadau sylweddol at ddeall y system gyhyrysgerbydol, Gwobr Marshall Wrist am ragoriaeth mewn ymchwil adfywio meinweoedd,  a’r Wobr Ymchwilydd Nodedig. Derbyniodd Wobr Ymchwil Glinigol 2024 y Sefydliad Ymchwil ac Addysg Orthopedig.