Graddiodd Nor Aieni Haji Mokhtar o Brifysgol Talaith Efrog Newydd (SUNY) yn Binghampton, UDA ym 1980 â Baglor yn y Gwyddorau mewn Ffiseg. Ar sail ei pherfformiad academaidd yn ei blwyddyn olaf, cyflwynodd Sefydliad Ffiseg America Ddyfarniad Ffiseg er Anrhydedd iddi.
Ymunodd hi â'r Gyfadran Wyddoniaeth yn Universiti Teknologi Malaysia (UTM) ym 1980 fel darlithydd cynorthwyol ac ym 1982, enillodd radd MSc mewn Ffiseg Ïoneiddiad gan yr hyn a elwid yn Goleg Prifysgol Abertawe ar y pryd.
Gwnaeth ei hymchwil ym maes Cymwysiadau Technoleg Laserau mewn Llif Hylifau yn UTM ac enillodd ei PhD mewn Ffiseg ym 1992, gan ymuno â'r Sefydliad Peirianneg Arfordirol ac Alltraeth newydd yn Adran Hydroleg UTM.
Mae ei meysydd arbenigedd yn niferus ac yn cynnwys astudiaethau modelu cyfrifiadurol a ffisegol, peirianneg hydrolig ac arfordirol, offeryniaeth, cefngoreg a gwyddor forol, astudiaethau ynysoedd a'r amgylchedd morol: polisi, dylunio arbrofol ac astudiaethau maes megis rheoli parthau arfordirol integredig, prosesau arfordirol, dylunio strwythurau ac astudiaethau dichonoldeb.
Cafodd Dr Nor Aieni ei dyrchafu'n Athro yng Nghyfadran Peirianneg Sifil UTM yn 2000. Fe'i penodwyd yn aelod o Senedd UTM rhwng 2001 a 2007. Cyn hyn, roedd hi'n Ddirprwy Ddeon y Ganolfan Rheoli Ymchwil ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol lle roedd hi'n rheoli'r portffolio eiddo deallusol. Roedd hi hefyd wedi ymdrin â'r gweithgarwch masnacheiddio a datblygu busnes yn y Swyddfa Arloesi ac Ymgynghori, gan gynorthwyo Deon UTM wrth gyflymu gwaith rheoli eiddo deallusol a masnacheiddio Ymchwil a Datblygu.
Yn 2008, cafodd ei phenodi'n Is-ysgrifennydd a Chyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Cefnforeg Genedlaethol yn y Weinidogaeth Gwyddoniaeth, Technoleg ac Arloesedd. Roedd ganddi rôl hollbwysig wrth sefydlu'r Gyfarwyddiaeth. Roedd yn un o'r aelodau sefydlu allweddol, gan strategeiddio'r meysydd ymchwil a datblygu arbenigol ar gyfer y diwydiant morol.
Yn 2014, bu'n gweithio fel aelod academaidd o'r tîm polisi yn UTM, gan fireinio cwricwlwm y cwrs a'r cynnwys e-Ddysgu ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig.
Yn 2015, cafodd ei phenodi gan y Gwir Anrhydeddus Dirprwy Brif Weinidog Addysg yn Is-ganghellor Prifysgol Malaysia Terengganu. Fe'i penodwyd i ddechrau am gyfnod o dair blynedd ar secondiad o UTM, ond ym mis Gorffennaf 2016, cofrestrodd fel aelod o staff academaidd yr Ysgol Peirianneg Cefnforoedd yn Terengganu ar ôl trosglwyddo gwasanaeth yn swyddogol. Yn ei swydd bresennol, mae wedi cyflwyno addysg hyblyg gyda'r tîm e-ddysgu arbennig o'r Brifysgol, gan gynnwys Cwrs Agored Torfol Ar-lein y Brifysgol ar Ddatblygiad Morol Cynaliadwy. Mae hi hefyd yn gadeirydd Grŵp Diddordeb Arbennig y clwstwr ymchwil ar gyfer astudiaethau arfordirol ac ynysoedd a'r Tasglu Arbennig ar erydiad arfordirol ac atebion peirianneg arfordirol ac Ynni Adnewyddadwy o'r Môr.
Mae hi wedi ennill sawl gwobr gan gynnwys medal aur yn y 27ain Arddangosfa Dyfeisiadau Rhyngwladol, Technegau Newydd a Chynhyrchion Newydd yng Ngenefa, y Swistir, yn y categori Peirianneg Adeiladu/Sifil; medal aur gan Sefydliad Eiddo Deallusol y Byd yng Ngenefa, y Swistir am y Dyfeisiwr Benywaidd Gorau; a'r dyfarniad am y Rhaglen Gwyddonwyr Ymweld gan Swyddfa Ryngwladol Ymchwil Llynges yr Unol Daleithiau yn Tokyo i gynnal ymweliadau astudio â'r Unol Daleithiau, sef y Ganolfan Data Cefnforeg Genedlaethol yn Silver Spring a Gorsaf Arbrofi Dyfrffyrdd Corfflu Byddin yr Unol Daleithiau yn Vicksburg, Mississippi.
Mae'r Athro Dr Nor Aieni yn academydd o'r radd flaenaf ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM). Mae ei gyrfa yn dangos brwdfrydedd am wyddoniaeth sy'n para am oes; ond mae hefyd yn dangos ei bod yn arloeswr yng ngwir ystyr y gair ac yn fedrus iawn wrth gyfleu a masnacheiddio ei syniadau. Dyma nodwedd o'r academyddion gorau a mwyaf effeithiol.