Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i glinigwr ac academydd arloesol, yr Athro Donna M Mead OBE a ysgrifennodd a chyflwyno’r radd israddedig gyntaf mewn Nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae gan yr Athro Mead ddeugain mlynedd o brofiad o weithio yn y GIG a’r Sector Addysg Uwch.
Astudiodd ar gyfer ei PhD ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe fel roedd bryd hynny. Ym 1989 ysgrifennodd a chyflwynodd y radd israddedig gyntaf mewn Nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe, ac o 1991 i 1996, bu’n Gyfarwyddwr Cynorthwyol ac yn Bennaeth Astudiaethau Graddedigion ac Ymchwil yn Adran Gwyddorau Iechyd Prifysgol Abertawe. Mae’n gyfrifol am uno tair ysgol Nyrsio yn y GIG i Brifysgol Abertawe a sefydlu rhaglen astudiaethau ac ymchwil i raddedigion yno.
Mae hi wedi arwain (fel pennaeth yr ysgol ac Athro Nyrsio) y broses o uno pum ysgol nyrsio yn y GIG i Brifysgol Morgannwg (Prifysgol De Cymru erbyn hyn) a sefydlu’r cymwysterau gofal iechyd israddedig ac ôl-raddedig cyntaf yno.
Mae ei chyflawniadau eraill yn cynnwys cael cyllid i ddatblygu MSc rhyngwladol mewn nyrsio Trychinebau a ddaeth yn ddiweddarach yn ofal iechyd trychineb, a chael yr arian ar gyfer a datblygu canolfan efelychu gwerth miliynau o bunnoedd ym Mhrifysgol De Cymru.
Hi yw awdur "Realising the Potential: A Strategic Framework for Nursing, Midwifery and Health Visiting in Wales into the 21st Century". Hon oedd y ddogfen bolisi gyntaf erioed i gael ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn dilyn trosglwyddo pwerau ym mis Gorffennaf 1999. Hi hefyd a ysgrifennodd Strategaeth Addysg Nyrsio RCN Cymru 2016, a lansiwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae wedi bod yn Feirniad ar gyfer Gwobr Nyrs y Flwyddyn Coleg Brenhinol Nyrsio Cymru ac mae wedi croniclo ar gyflawniad Nyrsys Cymru ar Wikipedia fel rhan o’r cynllun Croeso i hyrwyddo cyflawniadau menywod mewn gofal iechyd.
Yn 2009, dyfarnwyd OBE i’r Athro Mead, ac yn 2014, enillodd Wobr Cyflawniad Oes Prif Swyddogion Nyrsio y DU.
Cyflwynwyd y wobr gan yr Athro Ceri Phillips, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe. Dywedodd: “Pleser enfawr yw cyflwyno’r wobr hon i’r Athro Mead heddiw. Prin y gellir cyflawni dim byd tebyg i’r hyn mae hi wedi’i gyflawni yn ei gwasanaethau fel clinigwr, rheolwr ac academydd a’i hymroddiad i wella ysgolheictod ac ymarfer nyrsio gartref a thramor. Does dim dwywaith ei bod hi’n llwyr haeddu’r wobr hon.”
Wrth dderbyn ei gwobr, meddai’r Athro Mead: “Rwy’n ystyried fy hun yn ffodus iawn fy mod wedi gweithio ac astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Mae bron i 30 mlynedd ers i mi sefydlu’r graddau nyrsio cyntaf yn Abertawe, felly mae derbyn fy nghymrodoriaeth mewn seremoni gyda graddedigion yn derbyn eu graddau nyrsio yn rhoi ymdeimlad enfawr o falchder imi.
Enillais fy PhD yn Abertawe a byddaf yn ddiolchgar am, ac yn cofio, y ffordd y cefais fy meithrin a’m datblygu fel ymchwilydd bob amser. Rhoddodd y llwyfan i mi fynd ymlaen i ddatblygu’r cynllun meithrin capasiti ymchwil mwyaf ar gyfer nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yng Nghymru.
Ni allwn fod wedi dychmygu y byddai’r gwaith a wnes i ym Mhrifysgol Abertawe yr holl flynyddoedd hynny yn ôl yn arwain at yr anrhydedd uchaf hon gan y brifysgol lle dechreuodd y cyfan. Mae’n anrhydedd enfawr.”