Ei Ardderchowgrwydd Dr Badran Al-Omar yw Rheithor Prifysgol y Brenin Saud ers 2011 ac mae’n Athro yn y Coleg Gweinyddu Busnes yno.  Mae Dr Al-Omar wedi cael amryw o swyddi arweinyddiaeth pwysig, ac mae rhai ohonynt yn cynnwys: Cadeirydd Cyngor y Ddinas Feddygol, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Colegau Al-Farabi, Cadeirydd Riyadh Valley Company ac Is-reithor Prifysgol y Dywysoges Noura.

Cwblhaodd ei PhD mewn gweinyddiaeth iechyd ac ysbytai ym Mhrifysgol Cymru, ym 1995. Ar ôl hynny cwblhaodd ei CHQ (Tystysgrif mewn Ansawdd Iechyd) ym Mhrifysgol Oklahoma ym 1999. Cwblhaodd ei BA mewn Dulliau Meintiol o Brifysgol y Brenin Saud ym 1984 a derbyniodd ei Ddiploma Ôl-raddedig mewn Ymchwil Weithredol o Brifysgol Caerhirfryn ym 1986. Aeth Dr Al-Omar ymlaen i gwblhau ei radd MHHA mewn gweinyddiaeth iechyd ac ysbytai ym Mhrifysgol y Brenin Saud ym 1990.

Mae gan Al-Omar Radd LLD er Anrhydedd a ddyfarnwyd gan Brifysgol Abertawe yn 2015. Dyfarnwyd PhD er Anrhydedd iddo hefyd. Gradd mewn gweinyddiaeth gyhoeddus gan Brifysgol Gachon yn 2014 am ei wasanaethau rhagorol dros weinyddiaeth gyhoeddus. Daeth Dr Al-Omar yn ddarlithydd ar y Rhaglen Meistr mewn Gweinyddiaeth Ysbytai ac Iechyd ym Mhrifysgol y Brenin Saud ym 1990. Gwasanaethodd hefyd fel aelod academaidd o'r Rhaglen Hyfforddiant Diploma Rheoli Ansawdd, MOH, Riyadh rhwng 1998 a 2000. Mae wedi bod yn gwasanaethu fel Athro Atodol mewn Astudiaethau Rhyddfrydol, Prifysgol Oklahoma ers 2001. Ym 1995, daeth yn Athro Cynorthwyol ym Mhrifysgol y Brenin Saud lle daeth yn Athro yn 2005.

Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau a phapurau ymchwil a bu'n aelod pwysig o nifer o gynadleddau gwyddonol.