Mae’r Athro Harrhy yn soprano Gymreig o fri rhyngwladol sy’n byw yn Abertawe ac sydd wedi perfformio ar lwyfannau tai Opera enwocaf y byd. Ers perfformio gyntaf yn Covent Garden ym 1974 yn The Ring Cycle o dan arweiniad Syr Colin Davis, a gyfarwyddwyd gan Götz Friedrich, mae hi wedi ymddangos mewn rolau gan gynnwys Pamina yn The Magic Flute a Madama Butterfly. Yn ogystal â’i gwaith fel athro llais yn y Coleg Cerdd Brenhinol, mae’n rhoi dosbarthiadau meistr a hyfforddiant un-i-un yn Berlin, Prague, Singapore, Helsinki, Stockholm, Fienna, Bloomington a Dulyn.
Cyflwynwyd y radd gan Elin Manahan Thomas, sy’n gyn-fyfyrwraig yr Athro Harrhy ac yn soprano o fri rhyngwladol ei hun. Derbyniodd hithau Radd er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe yn 2013. Meddai: “Anrhydedd yw cyflwyno Eiddwen Harrhy i’r Brifysgol i dderbyn ei Doethuriaeth er Anrhydedd, gwobr sy’n cydnabod ei chyfraniad nodedig i ganu, nid yn unig yng Nghymru gwlad ei mebyd, ond ledled y byd."
Wrth dderbyn ei gradd, dywedodd yr Athro Harrhy: “Rwy’n teimlo’n wylaidd iawn yn derbyn cydnabyddiaeth y Brifysgol am fy ngwaith yn y byd cerddoriaeth, yng Nghymru ac ar draws y byd. Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n cael yr yrfa rydw i wedi’i chael, nac y byddwn i’n derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd gan fy Mhrifysgol gartref. Mae’n wirioneddol arbennig.”