Carol Robinson yw Athro Cemeg Dr Lee ym Mhrifysgol Rhydychen a hi yw Sylfaenydd Gyfarwyddwr Sefydliad Darganfyddiadau Nanowyddoniaeth Kavli yn Rhydychen. Caiff ei chydnabod am sefydlu sbectrometreg màs fel technoleg hyfyw i astudio strwythur a swyddogaeth proteinau. Graddiodd Carol o’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol ym 1979 a chwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Caergrawnt. Ar ôl seibiant gyrfa o wyth mlynedd i ganolbwyntio ar ei theulu, daeth yn Athro Sbectrometreg Màs yng Nghaergrawnt, gan ddychwelyd i Rydychen yn 2009 i ymgymryd â’i swydd bresennol. Yn 2016, cyd-sefydlodd OMass Therapeutics (www.omass.com) gyda nifer o gymdeithion ymchwil ôl-ddoethurol o’i labordy.

Mae ei gwaith wedi denu gwobrau niferus gan gynnwys Medal Benjamin Franklin 2022 mewn Cemeg, Gwobr Louis Jeantet 2022 am Feddygaeth, ac yn fwyaf diweddar Gwobr ASMS John B. Fenn 2023 am Gyfraniad Nodedig mewn Sbectrometreg Màs, a chael ei hethol i Gymdeithas Athronyddol America. Mae Carol yn gyn-lywydd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, yn Gydymaith Tramor Academi Genedlaethol y Gwyddorau UDA ac yn Aelod Anrhydeddus Rhyngwladol o Academi Celfyddydau a Gwyddorau America. Dyfarnwyd DBE iddi yn 2013 am wasanaethau i wyddoniaeth a diwydiant.