Mae Howard yn Athro Emeritws Rheoli Strategol ac Addysg Reolaeth ym Mhrifysgol Reolaeth Singapôr (SMU) lle bu'n Athro Nodedig Rheoli Strategol LKCSB, yn ddeiliad Cadair Cynhwysiant Ariannol a Chymdeithasol Mastercard (2015-2018) ac yn Ddeon Ysgol Fusnes Lee Kong Chian (LKCSB) (2009-2015).

Mae'n ysgolhaig y dyfynnir yn helaeth o'i waith a chanddo ddyfarniadau cymrodoriaeth o Academi Reolaeth yr UD (ACM), Academi Reolaeth Prydain (BAM), Academi Gwyddorau Cymdeithasol y DU, Cymdeithas Ddysgedig Cymru (LSW), Academi Reolaeth Ewrop (EURAM), Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IOD) a'r Gymdeithas Rheoli Strategol (SMS) lle bu hefyd yn Ddeon y Cymrodorion ac yn Llywydd y Gymdeithas. Bu hefyd yn Ddeon y Cymrodorion yn y BAM. Dyfarnwyd Gwobr Cyflawniad Oes Richard Whipp iddo gan y BAM yn 2013 a Medal Arweinyddiaeth Cooper gan y BAM yn 2022.

Bu hefyd yn Gadeirydd Bwrdd yr AACSB (y DU), CABS (y DU), y GFME (y Sefydliad Byd-eang ar gyfer Addysg Reolaeth) a’r GMAC (UDA) ac mae'n gyn Is-lywydd (ar gyfer ysgolion busnes) ac yn aelod er anrhydedd am oes o’r EFMD.  Dyfarnwyd Gwobr Arweinyddiaeth Strategol iddo gan yr AACSB yn 2014. Mae ei yrfa academaidd a gweinyddol wedi rhychwantu o leiaf dri chyfandir - Asia, Ewrop a Gogledd America. Bu ganddo swyddi gwadd a pharhaol yn AGSM (Awstralia); Ysgol Fusnes Llundain (LBS); Prifysgol Caeredin; Prifysgol Boston; MIT; Ysgol Kellog, Northwestern; Prifysgol De Califfornia (UDA); HEC Montreal; Prifysgol British Columbia (UCB) Vancouver (Canada) ac ym Mhrifysgol Johannesburg (UJ) yn ogystal â GIBS, Prifysgol Pretoria, De Affrica. Bu ganddo rolau Deon ac uwch-rolau gweinyddol yn LBS, AGSM, Prifysgol Illinois yn Urbana-Champaign (yr UD), Ysgol Fusnes Warwig (WBS) ac SMU. Mae ganddo sawl gradd er anrhydedd hefyd.