Cafodd Jean ei geni a’i magu ym Mhenrhyn Gŵyr ond mae wedi treulio bron i ddeugain mlynedd yn byw, gyda’i gŵr Andy, ym Morgannwg Ganol. Hyfforddodd fel nyrs gyffredinol yn Abertawe a bu’n gweithio fel nyrs theatr yng Nghymru a Llundain. Mae hi wedi cyflawni swyddi ym maes addysg nyrsio, gyda Bwrdd Nyrsio, Bydwreigiaeth ac Ymwelwyr Iechyd Cenedlaethol Cymru (rheoleiddiwr proffesiynol), Proffesiynau Iechyd Cymru a Llywodraeth Cymru. Hi oedd Prif Swyddog Nyrsio Cymru ac uwch ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru rhwng Hydref 2010 ac Ebrill 2021. Fe’i penodwyd yn Uchel Siryf Sir Morgannwg Ganol ar 30 Mawrth 2023. Ar hyn o bryd, mae’n cyflawni’r rolau canlynol: Athro Gwadd Nyrsio ym Mhrifysgol De Cymru; Aelod Annibynnol o’r Cyngor ym Mhrifysgol Bangor; Beirniad Panel ar gyfer Gwobrau Cenedlaethol Dewi Sant; Ymddiriedolwr Gwobrau Ieuenctid Heddlu De Cymru; ac ymddiriedolwr gydag Ambiwlans Sant Ioan Cymru.
Mae gan Jean sawl cymrodoriaeth academaidd a phroffesiynol: Cymrawd Prifysgol Abertawe, Cymrawd Prifysgol Bangor, Cymrawd Sefydliad Nyrsio’r Frenhines, a Chymrawd Anrhydeddus Coleg Brenhinol y Bydwragedd. Dyfarnwyd CBE iddi yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2017 a daeth yn Aelod o Urdd Sant Ioan yn 2018. Derbyniodd wobr Cyflawniad Oes Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru yn 2021 ac yn 2023 cafodd ei chydnabod gan y Nursing Times fel un o’r 75 o nyrsys mwyaf dylanwadol yn y DU yn ystod y 75 mlynedd diwethaf.