Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethiant Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd. Arbenigwr ar ddatganoli, gwleidyddiaeth ac etholiadau Cymru, a chynrychiolaeth rhywedd a ffeministeiddio gwleidyddiaeth. Awdur llyfrau a phapurau niferus, a sylwebydd a siaradwr gwadd.

Mae ganddi Gymrodoriaethau a Graddau er Anrhydedd gan Brifysgolion Bangor, Caerdydd, Metropolitan Caerdydd, De Cymru, Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Choleg Pen-y-bont.

Cyn aelod o Fwrdd Taliadau'r Cynulliad (2014-15), y Panel Annibynnol ar Gyflogau a Chymorth ACau (2008-09), Comisiwn Richard ar y Pwerau a'r Trefniadau Etholiadol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2002-04). Cadeirydd y grŵp arbenigol ar Amrywiaeth Llywodraeth Leol (2013-14); Cadeirydd Panel Arbenigol y Cynulliad ar Ddiwygio Etholiadol (2017); Cyd-gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (2021-24).

Is-lywydd UEFA ac aelod etholedig o'i Bwyllgor Gwaith. Cadeirydd Pwyllgor Cynaliadwyedd Cymdeithasol ac Amgylcheddol UEFA. Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Pêl-droed Menywod UEFA.

Cyn-gapten tîm rhyngwladol a chenedlaethol pêl-droed Cymru gyda 24 cap, Cadeirydd Chwaraeon Cymru (rhwng 2010 a 2016). Tan fis Ebrill 2016, Aelod o Fwrdd UK Sport, asiantaeth y Llywodraeth ar gyfer chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd, a chyn-gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Cadeirydd Neuadd Enwogion Chwaraeon Cymru.

Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.

Wedi ei sefydlu fel aelod o Orsedd y Beirdd, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Boduan, Awst 2023.

Dyfarnwyd CBE iddi yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, 2016.