Ganwyd Nigel yn Cleckheaton, Gorllewin Swydd Efrog, Lloegr. Graddiodd mewn mathemateg gyda BSc a PhD o Brifysgol Southampton. Ar ôl 7 mlynedd ym myd diwydiant dychwelodd i'r byd academaidd pan ymunodd â'r Adran Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe yn 1987. Yno, bu'n addysgu ac ymchwilio ym maes peirianneg gyda chysylltiadau agos â'r diwydiant awyrofod, yn benodol aerodynameg ac electromagneteg. Bu mewn swyddi rheolwr uwch yn Abertawe a bu'n Ddirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil) am chwe blynedd cyn symud i Brifysgol Birmingham yn 2008 fel Dirprwy Is-Ganghellor. Yn 2011 daeth yn Is-Ganghellor Prifysgol John Moores Lerpwl - swydd y bu ynddi am 7 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn hyrwyddodd y cysyniad o brifysgol ddinesig fodern.

Mae wedi dal swyddi eraill ledled y byd, gan gynnwys Athro Cynorthwyol yn yr US National Science Foundation Engineering Research Centre, Mississippi State University a Gwyddonydd Preswyl i’r Singapore Government Science, Technology and Research Agency, A*STAR. Mae ganddo gyfrifoldebau Prydeinig, gan gynnwys Cyfarwyddwr Gweithredol Rhaglen Genedlaethol STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) Addysg Uwch ar gyfer Cymru a Lloegr.

Yn flaenorol, mae wedi dal rolau anweithredol niferus gan gynnwys Cadeirydd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, Cadeirydd Crimestoppers (Glannau Mersi), Cadeirydd Royal Court Theatre Lerpwl, Cadeirydd Bwrdd Cynghori Rhanbarthol yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, Ymddiriedolwr Maggie's (Elusen Canser - Clatterbridge), aelod o Fwrdd Cyngor y Celfyddydau Lloegr (Gogledd). Nigel oedd Cyrnol Anrhydeddus Corfflu Hyfforddi Swyddogion Prifysgol Lerpwl rhwng 2013 a 2018. Ar hyn o bryd mae'n Ymddiriedolwr ENTUK (Corff proffesiynol sy'n cynrychioli llawfeddygaeth y glust, trwyn a'r gwddf), yn Ymddiriedolwr AET (Academy Enterprise Trust sy'n cynnwys 60 o ysgolion) ac mae'n Feinciwr Anrhydeddus ac yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant yn The Honourable Society of the Middle Temple.

Mae Nigel yn Gymrawd Academi Frenhinol Peirianneg, yn Gymrawd y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau ac yn Gymrawd y Gymdeithas Awyrenegol Frenhinol. Mae'n Fathemategydd Siartredig, Peiriannydd Siartredig a Gwyddonydd Siartredig. Mae’n Ddirprwy Raglaw Glannau Mersi hefyd.

Yn ei amser hamdden, mae'n mwynhau darllen, y celfyddydau a physgota â phlu, lle mae'n hynod falch o'i gydnabyddiaeth ffurfiol fel 'Meistr y Brithyll'! Mae'n parhau'n frodor balch o Swydd Efrog sy'n byw yn Richmond Upon Thames ar hyn o bryd.