Cyn derbyn swydd uwch-reolwr mewn prifysgol, roedd yr Athro Peter Townsend BSc, PhD, FSc, FLSW, yn ymchwilydd gweithredol mewn dau brif faes, sef mecaneg hylifol gyfrifiadurol an-Newtonaidd a graffeg gyfrifiadurol. Roedd y gwaith hwn o ddiddordeb sylweddol i ddiwydiant a oedd yn rhoi cymorth ariannol sylweddol i faes ymchwil. Roedd agweddau gwyddonol mwy sylfaenol y gwaith hylifau’n cynnwys gwerthuso modelau cyfansoddol o elfennau croesrwygo, estynnol ac elastig yr hylifau, tarddiad algorithmau rhifiadol newydd ar gyfer datrys yr hafaliadau differol rhannol aflinol sy'n llywodraethu'r llifoedd a gweithredu'r algorithmau hyn ar saernïaeth ddosbarthedig neu gyfochrog fodern. Roedd y gwaith graffeg yn cynnwys delweddu animeiddio rhagfynegiadau rhifiadol o lifoedd cymhleth, ond hefyd dylunio a gweithredu rhyngwynebau defnyddwyr soffistigedig ar gyfer meddalwedd system reoli. Mae ei waith ymchwil wedi arwain at dros 120 o gyhoeddiadau.

Mae'n gyn-lywydd Cymdeithas Rheoleg Prydain, wedi cyd-gadeirio Cyngres Ryngwladol Rheoleg ac mae'n Gadeirydd Sefydliad Mecaneg Hylif an-Newtoniaidd ar hyn o bryd.

Ym, 1996 dechreuodd ar rôl reoli uwch ym Mhrifysgol Abertawe gan ymddeol maes o law fel Dirprwy Is-Ganghellor yn 2007.

Ar ôl ymddeol mae wedi bod yn weithgar ym maes cyllid eglwysig, gan gadeirio Bwrdd Cyllid Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Yn fwy diweddar, derbyniodd rôl Trysorydd Ardal Weinidogaeth Gŵyr sy'n cynnwys ugain o eglwysi Anglicanaidd Gŵyr. Bu'n aelod gweithgar o Sefydliad Cenedlaethol Gwylwyr y Glannau am sawl blwyddyn, fel gwyliwr yn yr orsaf NCI ym Mhen Pyrod ar Benrhyn Gŵyr.