Mae'r Athro Robin Williams yn ffisegydd ac yn awdurdod ym maes lled-ddargludyddion a dyfeisiau electronig. Mae ei ymchwil wedi bod yn bwysig wrth ddatblygu electroneg ddigidol a'r cynnydd pellgyrhaeddol mewn cyfrifiadura a chyfathrebu. Datblygodd ef a'i dîm ddulliau newydd o lunio ac astudio lled-ddargludyddion ac roeddent ymhlith y cyntaf i ddefnyddio ymbelydredd syncrotron i archwilio arwynebau a rhyngwynebau solidau. Cydweithiodd mewn prosiectau ymchwil gyda diwydiannau ar draws y byd a chyhoeddodd gannoedd o erthyglau, llyfrau ac adroddiadau ymchwil. Ganed ef ar fferm fynydd yn y Gogledd, graddiodd gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg ym Mangor ym 1963 a chwblhaodd ei PhD ym 1966. Yna bu'n gweithio ym Mhrifysgol Ulster, lle aeth ati i greu tîm ymchwil cryf, a threuliodd gyfnodau yn gweithio yn Sefydliad Max Planck yn yr Almaen ac yn Xerox Corporation ac yn IBM yn UDA. Yn 1984 dychwelodd i Gymru fel pennaeth yr Adran Ffiseg yng Nghaerdydd lle sefydlodd grŵp ymchwil blaenllaw mewn ffiseg lled-ddargludyddion. Ynghyd â'r Athro D V Morgan, sefydlodd Ganolfan Lled-ddargludyddion a Microelectronig 3-5 Caerdydd a oedd yn hynod ddylanwadol yn natblygiad diwydiannau sy'n arbenigo mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Ne-ddwyrain Cymru. Gan fanteisio ar uno dwy brifysgol yng Nghaerdydd, arweiniodd yr ymgyrch i wella maint ac ansawdd yr adran a ddaeth yn Adran Ffiseg a Seryddiaeth lwyddiannus iawn.
Ar ôl cyfnod fel Dirprwy Brifathro yng Nghaerdydd, ym 1994 fe'i penodwyd yn Brifathro [Is-ganghellor yn ddiweddarach] Prifysgol Cymru, Abertawe [Prifysgol Abertawe yn ddiweddarach]. Ef oedd yr academydd mwyaf blaenllaw yng Nghymru yn yr ymgais i sicrhau bod y Prifysgolion yn elwa o Gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd, a arweiniodd at Gymru’n ennill grantiau mawr iawn i gefnogi amrywiaeth o brosiectau trawsnewidiol. Roedd ei weledigaeth a'i ddiplomyddiaeth yn ganolog yn natblygiad Ysgol Feddygaeth Abertawe sydd wedi bod yn bwysig iawn i'r gwasanaeth iechyd yn Ne a Gorllewin Cymru. Sicrhaodd fod y Brifysgol yn meithrin perthynas waith ardderchog gyda'r awdurdodau lleol yn Ne-orllewin Cymru, gan arwain at lawer o ddatblygiadau megis Pwll Nofio Cenedlaethol Cymru a chyfleusterau athletau. Ymddeolodd fel Is-Ganghellor Abertawe yn 2003.
Yn 2010, ar gais Llywodraeth Cymru, cadeiriodd Robin Fwrdd i ystyried materion yn ymwneud ag addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Prifysgolion yng Nghymru, a fu'n 'asgwrn cynnen' gwleidyddol. Arweiniodd ei adroddiad at sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a weddnewidiodd y cyfleoedd i addysgu drwy'r Gymraeg ac yn ddwyieithog. Arweiniodd adroddiad arall a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru at sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau hyfforddiant priodol a chynllunio'r gweithlu yn y GIG yng Nghymru. Mae wedi cadeirio nifer o gyrff Cyngor Ymchwil yr UE a'r DU ac wedi gwasanaethu ar nifer o grwpiau cynghori ar gyfer Llywodraethau'r UE, y DU a Chymru, gan gynnwys Cadeirydd Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru. Am flynyddoedd lawer bu'n aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac yn gadeirydd y pwyllgor ymchwil dylanwadol; bu hefyd yn ganolog yn y gwaith o sefydlu prosiect Sêr Cymru i ddenu ymchwilwyr blaenllaw'r byd i Gymru.
Ym 1990 etholwyd Robin i Gymrodoriaeth y Gymdeithas Frenhinol ac mae'n Gymrawd Sefydlu Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Dyfarnwyd CBE iddo yn 2004 ac fe'i gwnaed yn farchog yn 2019 am wasanaeth i ymchwil, addysg uwch a'r Gymraeg.