Rhaglen Mentora Cyn-fyfyrwyr Abertawe

Mae Rhaglen Mentora Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn fenter strwythuredig ond hyblyg sydd wedi'i chynllunio i gysylltu myfyrwyr presennol a graddedigion diweddar â chyn-fyfyrwyr a all gefnogi eu datblygiad gyrfa a'u twf personol.

Bydd y rhaglen ar waith o fis Ionawr i fis Mawrth 2026, gan gynnig cyfle i fenteion ennill hyder, eglurder a sgiliau yn barod am yrfa, tra bod mentoriaid yn mwynhau'r profiad gwerthfawr o roi'n ôl a chwarae rôl drawsnewidiol yn nhaith myfyriwr.

Bydd angen i chi fod yn aelod o Swansea Uni Connect i gymryd rhan.

Darganfyddwch sut i gofrestru yma. Am unrhyw gwestiynau am Raglen Mentora’r Cyn-fyfyrwyr, cysylltwch ag alumni@swansea.ac.uk

Mentee

Mentees

Drwy'r rhaglen, gall menteion:

  • Ddysgu gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am eu profiadau a'u dewisiadau gyrfaol
  • Datblygu CV, ceisiadau a sgiliau cyfweliad cryf
  • Meithrin dealltwriaeth o'u gyrfa/diwydiant dewisol
  • Meithrin cysylltiadau proffesiynol ystyrlon

Mae'r Rhaglen Mentora Cyn-fyfyrwyr yn atgyfnerthu'r syniad nad yw'r profiad o Brifysgol Abertawe yn dod i ben ar ôl graddio — mae'n datblygu'n berthynas gydol oes sy'n seiliedig ar barch ar y ddwy ochr, cyfleoedd a llwyddiant a rennir.