Mae rhwydwaith cyn-fyfyrwyr Abertawe yn cynnwys 165,000 o raddedigion ledled y byd! Rydym wrth ein boddau bod gennym gymuned ryngwladol mor eang ac rydym mor falch o holl raddedigion Abertawe. Er bod llawer ohonoch wedi gadael Abertawe ar ôl i chi raddio, bydd ychydig bach o Gymru (a'r Gymraeg) yn eich calon am byth – hyd yn oed os nad yw'n fwy na 'Shwmae!'
Er mwyn dathlu cyfnod yr ŵyl, rydym wedi llunio rhestr o'n hoff ymadroddion Cymraeg sy'n ymwneud â gwyliau a'r cyfieithiadau Saesneg. A fyddwch yn rhoi cynnig ar ddefnyddio'r ymadroddion Cymraeg hyn dros y Nadolig?
Saesneg | Cymraeg | Ynganiad ffonetig |
---|---|---|
Merry Christmas | Nadolig Llawen | Na-doh-lig lla-when |
Father Christmas | Sion Corn | Shaun Korr-n |
Snow Man | Dyn Eira | Dean Eye-rah |
Star | Seren | Se-ren |
Reindeer | Carw | Kah-roo |
Tree | Coeden | Coy-den |
Gift | Rhodd | Rho-dd |
Stocking | Hosan | Hos-ann |
Holly | Celyn | Keh-lynn |
Happy New Year | Blwyddyn Newydd Dda | Bl-oi-ddin New-idd Dd-ah |
Cheers | Iechyd da! | ya-key da |
Rydyn ni hefyd wedi llunio'r rhestr hon o negeseuon dathlu o bob cwr o'r byd er mwyn i chi allu dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’ch cyd-fyfyrwyr. Os byddwch chi'n rhoi cynnig ar yr ymadroddion Nadoligaidd hyn, bydden ni wrth ein boddau pe baech chi'n eu rhannu â ni drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol!