Darganfyddwch yr hyn mae ein cyn-fyfyrwyr yn ei wneud gyda'r newyddion, y cyhoeddiadau a'r podlediadau diweddaraf. Cadwch mewn cysylltiad â chymuned cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe a chymerwch ran ynddi.
Archwiliwch ein podlediadau cyn-fyfyrwyr
Podlediad Archwilio Problemau Byd-eang
Cewch ragor o wybodaeth
Podlediadau Cyn-fyfyrwyr
Mae Jon Doyle, a raddiodd o Abertawe â PhD mewn Ysgrifennu Creadigol yn 2019, yn sgwrsio â phedwar awdur arall a raddiodd o'n prifysgol, gan drafod eu gwaith, yr hyn sy'n eu hysbrydoli a'u cysylltiadau â Phrifysgol Abertawe.
Cymuned Abertawe mewn llenyddiaeth
Darganfyddwch gyhoeddiadau cyffrous gan gymuned Prifysgol Abertawe.
Oes gennych chi gyhoeddiad yr hoffech chi ei rannu â ni? E-bost: alumni@swansea.ac.uk
Swansea University: Campus and Community in a Post‑War World,1945‑2020
Mae'r astudiaeth hon yn cynnig hanes sefydliadol cyfoethog Prifysgol Abertawe, gan ddefnyddio tystiolaeth lafar a deunyddiau archifol i adrodd am sut gwnaeth y brifysgol esblygu yn ei rhanbarth a'r tu hwnt.
Pencampwyr, Olympiaid, Mawrion - A Century of Sport ym Mhrifysgol Abertawe
Wedi'i ysgrifennu gan Stan Addicott, cyn-Gyfarwyddwr Chwaraeon a Hamdden Gorfforol yn y Brifysgol, mae'r llyfr yn cyflwyno stori'r 100 mlynedd diwethaf o ragoriaeth ym maes chwaraeon - o'n sylfaenwyr cynharaf i fawrion y dyfodol.
Mae cyn-fyfyrwyr yn cael gostyngiad o 10% ar bris y llyfr gyda'r cod Sport22