Ganwyd Chris yn Northwich, Swydd Gaer ym 1956. Astudiodd Beirianneg Electronig ym Mangor ym 1974. Ar ôl iddo ennill ei radd ym 1977, symudodd i Brifysgol Abertawe i gwblhau ei radd Meistr, hefyd mewn Electroneg ym 1979.
Yn ystod ei gyfnod yn Abertawe, ymunodd â Thîm Radio’r Brifysgol, a oedd yn grŵp clos, gan gynnwys y cyflwynydd benywaidd cyntaf ar yr orsaf. Daeth hefyd yn rhan o Bwyllgor y Llwyfan gan ddarparu'r sain a'r goleuadau ar gyfer llawer o ddigwyddiadau.
Ar ôl graddio, ymunodd â Race Electronics, ac yna â Dragon Data, gan ddylunio'r galedwedd ar gyfer Cyfrifiadur Dragon a'r perifferolion.
Daeth yn Gyfarwyddwr Technegol yn Tellermate (rhan o Grŵp Percell) lle hawliodd batentau am lawer o'i syniadau dylunio. Roedd wedi'i leoli yn Johannesburg ac Atlanta yn ogystal â’r pencadlys yng Nghasnewydd. Yn ystod ei gyfnod yn Tellermate, cafodd ef, ynghyd ag uwch-gydweithwyr, dair Gwobr y Frenhines am Ddiwydiant, dwy ohonynt yn yr un flwyddyn, 1997.
Ochr yn ochr â gweithio i'r cwmnïau uchod, bu Chris hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd dylunio i Coinmaster yng Nghaerdydd ac yn ddiweddarach, Autogaming ac Autodice, gan weithio ym Macau am ran o'r amser hwn.
Bu farw Chris ar 1 Medi 2025 yn 69 oed.