Hannah Worth - Perchennog, Bowla
MSc, Arweinyddiaeth a Rheoli Peirianneg. Dosbarth 2022

Pam dewisoch chi ddod i Abertawe?

Fe wnes i gofrestru ar raglen Meistr ym mis Medi 2021, gan symud o Fryste i Brifysgol Abertawe. Roedd yn agos at gartref ac aeth fy chwaer i Brifysgol Abertawe. Roedd Abertawe wedi ennill nifer o wobrau ac achrediadau dwi’n meddwl, ac roeddwn i wedi clywed hefyd bod y cymorth i fyfyrwyr, y cymorth gan y Tîm Mentergarwch a boddhad y myfyrwyr yn gyffredinol yn dda. Hefyd, mae’n ddinas hyfryd ar lan y môr!

Oes gennych chi unrhyw hoff leoedd i fynd am fwyd yn Abertawe?

Mae fy musnes ym Marchnad Abertawe, felly Marchnad Abertawe, yn amlwg! Dwi wedi bod i lawer o leoedd i wneud ymchwil. Dwi'n hoff iawn o gaffi'r Arsyllfa a'r lleoliad yno.

O ble daeth y syniad ar gyfer Bowla? Ac a oeddech chi wedi gweld bwlch yn y farchnad bwyd?

Dechreuodd gyda syniad fy nhad ar ôl iddo gael damwain wrth wneud bara yn ôl yn 2007, a arweiniodd at dorth â siâp diddorol. Torth o fara â siâp het yw'r bowla; wrth i chi dynnu'r top bydd gennych chi fowlen fara wedi'i llenwi â gwahanol gynhwysion, rholyn bara a thopins. Ac yna rydych chi'n dowcio'r top ynddo. Gwnaeth fy nhad weithio am 10 mlynedd yn gwneud mowld i greu'r siâp. Ac yna, yn 2020, pan ddechreuodd y pandemig, symudais i adref, gan fwriadu aros am bythefnos, ond roeddwn i yno am chwe mis yn y diwedd. Roedd fy nhad yn siarad â mi drwy'r amser am y syniad wrth i ni fynd am dro yn y cyfnod clo. Ac roeddwn i'n meddwl, reit, dwi'n mynd i symud adref - ac yna byddwn ni'n dechrau busnes gyda'n gilydd. Dwi'n byw rhwng Caerdydd ac Abertawe, felly penderfynais i mai yn Abertawe bydden ni'n dechrau. Gwnes i gofrestru ar gwrs meistr ym Mhrifysgol Abertawe a gweithio'n agos gyda'r Tîm Mentergarwch i lunio cynlluniau busnes a sicrhau cyllid grant. Ac yna roedd angen rhywle i bobi'r torthau i brofi'r cysyniad. Felly, dewison ni Farchnad Abertawe i bobi a gwerthu'r bara. Mae bwlch yn y farchnad. Does neb arall yn gwerthu torthau bara â siâp het bowler.

Bowla

Oeddech chi bob amser eisiau cael gyrfa ym maes bwyd?

Dwi bob amser wedi dwlu ar fwyd. Pryd bynnag bydd lle newydd yn agor, fi yw'r un bob amser sy'n erfyn ar fy ffrindiau i ddod a rhoi cynnig arno. Ond doeddwn i ddim wedi pobi dim o'r blaen. Mae fy nghefndir mewn ffiseg sydd â ddim cysylltiad o gwbl â phobi. Dwi wedi gorfod dysgu llawer am y diwydiant bwyd a diod yn y tair i bedair blynedd diwethaf.

Sut brofiad yw rhedeg busnes gyda’ch tad?

Mae'n dda gweithio gyda'r teulu. Fi a'n nhad sy'n berchen ar y busnes. Ond fy ewythr sy'n pobi'r bara. Mae cariad fy chwaer yn gyfrifol am y cyfryngau cymdeithasol.

Mae gan fy chwaer rôl bwysig hefyd. Mae fy mam yn helpu. Mae pawb yn cyfrannu. Gall fod yn her gweithio gyda'r teulu ond, ar yr un pryd, dwi'n ymddiried ynddyn nhw. Rydyn ni'n ffraeo lawer. Ond mae ymddiriedaeth o dan hynny na fyddai yno gyda phobl eraill.

Beth sy'n ysbrydoli'r blasau rydych chi'n eu creu ar gyfer y Bowlas?

Mae tri math o dorth gennym. Mae gennym y bowla gwyn clasurol, sy'n boblogaidd iawn gyda chwsmeriaid newydd. Mae llawer o'r bobl newydd sy'n cerdded drwy'r drws eisiau rhoi cynnig ar yr un plaen yn unig. Mae gennym un garlleg a rhosmari, dyna'r un sy'n gwerthu orau. Rydyn ni wedi cynnig y dorth brotein sy'n cynnwys 15 gram o brotein, wedi'i hysbrydoli gan bobl sydd am gael opsiwn mwy iach, fel y rhai sy'n mynd i'r gampfa. Ac yna mae gennym un â phupur du craciog, dyna fy hoff un i. Rydyn ni wedi cynnig blasau gwahanol hefyd. Rydyn ni'n gwneud beth bynnag sy'n apelio aton ni, ond mae'n rhaid i mi ystyried beth sy'n gwerthu a beth sydd ddim. Mae'n eithaf anodd pan fyddwn ni'n creu blas nad yw'n gwerthu'n dda. Mae'n gydbwysedd rhwng ceisio cadw pethau'n ffres a cheisio datblygu, ond heb eisiau gwastraffu llwyth o fwyd a llenwadau. Cawl cig oen Cymru yw'r un sy'n gwerthu orau. Mae llawer o bobl eisiau blasu’r cawl, p'un a ydyn nhw'n dwristiaid, yn fyfyrwyr o'r tu allan i Gymru, neu hyd yn oed yn fyfyrwyr o Gymru. Rydyn ni'n ceisio cadw pethau mor Gymreig a lleol â phosib. Felly, mae'r rhan fwyaf o'n cynhwysion yn gynnyrch Cymreig. Mae'r menyn a'r caws i gyd o Gymru.

Oes gennych hoff lenwad ar gyfer Bowla?

Fy ffefryn i, byddwn i'n dweud, yw’r peli cig a saws marinara, mewn torth garlleg a rhosmari gyda'r topins i gyd.

Faint mae Bowla yn costio?

Mae'r bowla wedi'i llenwi â'r holl dopins yn costio £7.50. Does dim llawer o bobl yn gwybod hyn, ond rydyn ni'n gwerthu'r torthau ar eu pennau eu hunain hefyd. Mae'n £2.60 am unrhyw flas neu 2 am £5 neu 4 am £9. Rydyn ni hefyd yn eu hanfon drwy'r post yn y Deyrnas Unedig.

Gwelais i fod gennych chi gynllun i gynnig blasau melys.

Oes, mae gennyn ni un melys hefyd! Fel arfer, rydyn ni'n gwerthu hwnnw yn yr haf, pan fydd y tywydd yn gwella. 

Bowla

Yr un melys yw bowla toesen, wedi'i leinio â Biscoff ac yna ei llenwi â hufen iâ, sawsiau a melysion mân. Mae un arbennig ar gyfer y Pasg hefyd, wedi'i llenwi ag wyau bach.

Ydych chi'n creu rhai gwahanol ar gyfer tymhorau gwahanol?

Ydyn. Gwnaethon ni un Nadoligaidd, sef unrhyw bowla wedi'i llenwi â thwrci, soch mewn sach, tatws rhost, stwffin, grefi, saws llugaeron ac yna'r holl dopins hefyd. Roedd hwnnw'n boblogaidd iawn. 

Beth, yn eich barn chi, yw'r rhan orau o redeg eich busnes bwyd eich hunan?

Ceisio gwerthu cysyniad newydd. Un o'r pethau sy'n fy nghadw i fynd yw ymateb pobl pan fydda i'n esbonio iddyn nhw beth yw'r cynnyrch a'r stori y tu ôl iddo. Pryd bynnag bydda i'n esbonio creu powlen o fara, mae pobl yn cyffroi'n fawr. Pobl yw'r rhan orau. Mae rhai cwsmeriaid yn dwlu ar y stori ac yna maen nhw'n dweud wrth eu ffrindiau i gyd. Mae hynny'n cŵl iawn.

Ydych chi'n wynebu unrhyw heriau?

Costau cynyddol. Costau staff, cynhwysion, rhent. Mae cost popeth yn cynyddu a dyna her i bob perchennog busnes bwyd. Her arall i mi yw hyrwyddo'r cynnyrch - a pheidio â gorwario. Gallwn i wario miliwn o bunnoedd ar farchnata, ac yna byddai pawb yn y Deyrnas Unedig yn gwybod beth yw Bowla. Ond does gennyn ni ddim y math hwnnw o arian, felly rydyn ni'n ceisio hyrwyddo cysyniad newydd ond mewn ffordd gyffrous ac ar gyllideb fach.

Ydy'r fideos TikTok yn helpu?

Ydyn, mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn fantais fawr. Mae'n debyg bod 90% o fy nghwsmeriaid yn dod oherwydd y cyfryngau cymdeithasol. Mae pobl wedi dod o Gaerdydd a Bryste a lleoedd eraill yng Nghymru a Lloegr.

Gwnaethoch chi sôn am y staff. Faint o aelodau staff sy'n gweithio i Bowla?

Mae fy ewythr yn pobi'r bara. Mae gennym ddau aelod staff rhan-amser yn y siop a fi fy hun hefyd ac mae cariad fy chwaer yn gweithio ar y cyfryngau cymdeithasol. A fy nhad hefyd, ond dyw e ddim yn gweithio yn y busnes mewn gwirionedd. Felly, pump. Pump i gyd.

 

Bowla

Ers dechrau Bowla, ydych chi wedi dysgu rhywbeth am fwyd neu redeg busnes? Oes unrhyw beth wedi eich synnu ar hyd y ffordd?

Pan wnaethon ni lansio yn 2023, roedd cynifer o'r cynhwysion â phosib o Gymru, yn bennaf oherwydd argaeledd. Mae hynny'n bwysig i mi wrth gwrs, ond wrth lansio, sylweddolais i fod hynny’n bwysig iawn i bobl eraill hefyd. Bydden nhw’n dod i mewn a gofyn a oedd y cynnyrch yn dod o Gymru. Ond roedd hynny'n beth eithaf da achos roedden ni'n gallu ticio'r holl focsys hynny.

Oes unrhyw agwedd ar Bowla rydych chi'n hynod falch ohoni, neu unrhyw atgofion melys penodol?

Roedd llawer o ddiddordeb gan y wasg o'r dechrau cyntaf. Yn ystod ein blwyddyn gyntaf, roedd llawer o erthyglau amdanon ni yn y wasg leol a chenedlaethol. Yna, cyn pen 12 wythnos o fasnachu, roedden ni'n ffilmio sioe deledu, Aldi's Next Big Thing ar Channel 4. Cafodd honno ei darlledu ym mis Ebrill 2023 a dim ond am bum munud roedden ni ar y sgrîn ond cafodd y rhaglen ei gweld gan 7.5 miliwn o bobl ledled y wlad. Dyna un o'r pethau dwi'n fwyaf balch ohono, mwy na thebyg, bod ar deledu cenedlaethol o fewn blwyddyn o fasnachu. Y peth sy'n fy ngwneud i'n fwyaf balch yw'r ffaith mai syniad fy nhad oedd hyn a bellach mae'n fusnes sy'n gweithredu'n llawn.

Dywedoch chi mai dim ond am bum munud roeddech chi ar y teledu, ond sut brofiad oedd hynny?

Gwnaethon ni ffilmio am saith awr ac roedd yn gromlin ddysgu fawr iawn. Roedd yn brofiad da iawn, cael ein cyfweld a gorfod siarad i'r camerâu. Mae i gyd yn hyfforddiant da ar gyfer y dyfodol. Roedd yn brofiad eithaf syfrdanol gwylio fy hun ar y teledu a gwybod bod saith miliwn o bobl yn gwylio ar yr un pryd - sôn am straen! Ond fe wnes i ei fwynhau'n fawr.

Oes gennych chi gynlluniau cyffrous ar gyfer Bowla?

Penderfynais i ar ddiwedd mis Rhagfyr mai'r cam nesaf fyddai gwerthu Bowlas ym mhob stadiwm yn y Deyrnas Unedig, gan ddechrau yn Abertawe a Chaerdydd. Felly, ers mis Ionawr, dwi wedi bod yn mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio a dwi wedi bod yn trefnu cyfarfodydd gyda'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau mewn stadia. Mae yna gwmni sy'n rheoli bron pob agwedd ar fwyd yn yr holl stadia mawr yn y Deyrnas Unedig. Mae gen i gynllun gweithredu am sut bydda i'n mynd ati i gyflawni hyn. Mae angen i mi ddod o hyd i gwmni pobi arall sy'n gallu gwneud y bowlas ar raddfa ddigon mawr. Felly, fy nghynllun nawr yw ceisio cael cytundeb gyda chwmni pobi ac yna ceisio cael fy nhroed drwy ddrws y stadia fel hynny.

Disgrifiwch ddiwrnod arferol i chi

Dwi'n gweithio dau ddiwrnod yr wythnos yn y siop. Felly, ar ddiwrnod arferol, byddwn i'n mynd i'r siop am tua naw o'r gloch yn y bore. Mae fy ewythr wedi bod yno ers saith o'r gloch y bore, yn pobi'r torthau, felly wedyn byddwn i’n cael y siop yn barod i agor, yn rhoi popeth allan, yn gwneud yn siŵr bod popeth yn ei le. Storio’r nwyddau a ddosbarthwyd. Gwasanaethu cwsmeriaid a chreu cynnwys i'w bostio ar y cyfryngau cymdeithasol, glanhau a mynd adref. Ond am y tri diwrnod na fydda i yn y siop, bydda i'n mynd i gynadleddau a chyfarfodydd, yn anfon e-byst, yn ysgrifennu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Fi sy'n gwneud y cyfrifon.  Dwi'n bwriadu rhoi cynnig ar wneud fideos coginio cartref, gan wneud rhywbeth gwahanol bob wythnos, fel llenwad gwahanol. A dwi eisiau creu rhestr bostio sy'n anfon ryseitiau bob wythnos, a byddwn i'n eu rhoi ar TikTok hefyd.

Pam dewisoch chi Farchnad Abertawe?

Fe wnes i fy ngradd meistr yn Abertawe rhwng 2021 a 2022 a Marchnad Abertawe, dwi'n meddwl, yw'r bedwaredd farchnad fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae nifer y bobl sy'n ymweld yn eithaf mawr. Doeddwn i ddim eisiau dechrau eto mewn dinas arall ac Abertawe yw'r maint perffaith. Roedd hi'n lle gwych i ni ddechrau. Dwi wedi gwneud cynifer o gamgymeriadau ac mae llawer o bethau wedi mynd o chwith. Dwi'n eithaf balch fy mod i wedi dewis Abertawe, lle roedd fy holl rwydwaith. Gyda chymorth y Tîm Mentergarwch yma yn y Brifysgol, fyddai ddim wedi gwneud synnwyr mynd i Gaerdydd.

Dwi'n gwybod eich bod wedi gweithio gyda Thîm Mentergarwch Prifysgol Abertawe. Ond allwch chi siarad ychydig am sut gwnaethon nhw eich helpu yn y dechrau?

Dwi wedi gweithio gyda'r Tîm Mentergarwch a dwi wedi gweithio hefyd gyda Syniadau Mawr Cymru, Busnes Cymru ac eraill. Roedd gennym y syniad a'r cynnyrch. A'r cam nesaf oedd penderfynu sut roedden ni eisiau dechrau. Cyflwynais i'r syniad ar ddwy adeg i'r Tîm Mentergarwch. Cyflwynais i am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2022. Dwi ddim yn gwybod a ydych chi'n ymwybodol o'r Big Pitch, ond gallwch chi ennill hyd at £3000 mewn cyllid grant. Gallwch chi hefyd ennill cyfle i gael eich mentora a lle ar y bŵtcamp busnes. Ar y pryd, dim ond y syniad oedd gen i, a doedd dim clem gen i sut roeddwn i'n mynd i fasnachu, felly ces i chwe mis o fentora a ches i le ar y bŵtcamp chwe wythnos hefyd. Dwi dal mewn cysylltiad â fy mentor nawr, bedair blynedd yn ddiweddarach. Roedd e'n anhygoel. Enillais i chwe sesiwn un awr gydag ef, ond byddai'n rhoi tair awr i mi, bob tro. Wedi hynny roedd gen i gynllun busnes dichonol. Roedd llif arian parod gen i. Roeddwn i wedi cyflwyno fy nghais i Farchnad Abertawe. Roedd rhaid i ni ddod o hyd i gegin o rywle. Cyflwynais i i'r Tîm Mentergarwch eto ar ôl i mi gael fy mentora, ac enillais i £3000. Mae aelodau'r Tîm Mentergarwch yn hyfryd. Gwnaethon nhw gynnal ymgyrch yn y cyfryngau cymdeithasol a gwnes i gymryd y llyw yn eu cyfryngau cymdeithasol am ddiwrnod.

Pa gyngor byddech chi'n ei roi i rywun sydd efallai'n darllen y cyfweliad hwn ac yn meddwl ei fod eisiau dechrau ei fusnes bwyd ei hun neu weithio yn y diwydiant bwyd?

Dylai myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe gysylltu â'r Tîm Mentergarwch a chael cyfarfod cychwynnol gyda nhw. Alla i ddim argymell gwasanaethau Cywain yn ddigon. Dyna raglen cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau bwyd a diod. Manteisiwch ar yr holl gymorth sydd ar gael ac ewch i gynifer o ddigwyddiadau am ddim â phosib. Gwrandewch ar gynifer o bobl wahanol ag y gallwch a cheisiwch ddysgu gan gamgymeriadau pobl eraill. Dwi'n meddwl bod hynny'n bwysig, ond wrth gwrs, rhaid i chi wneud eich camgymeriadau eich hun hefyd. Does dim dwywaith amdani - rhaid i chi dorchi llewys a mynd amdani. Hefyd, cadwch lygad am geisiadau am grantiau i gael cymaint o arian a chymorth â phosib. Mae costau sefydlu i fusnesau bwyd yn eithaf uchel o'u cymharu â rhai busnesau eraill.

Joe's neu Verdi's?

Beth yw hwnnw? Arhoswch! Hufen iâ Joe’s. Bydd rhaid i mi flasu Verdi’s ond mae'n rhaid i mi ddweud Joe's. (Dim ond Joe's dwi wedi'i flasu.)