Hansraj Halan - Prif Swyddog Gweithredol, 14°41°
MBA, Dosbarth 2014

Fel myfyriwr rhyngwladol o India, beth ddylanwadodd ar eich penderfyniad i astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Roeddwn i eisiau dysgu am fywyd mewn ffordd llawer mwy ymarferol. Roeddwn i'n edrych ar brifysgolion ym mhobman, ond Abertawe oedd yn dal fy sylw. Abertawe oedd un o'r lleoedd mwyaf heddychlon i fod. Roeddwn i eisiau deall gwerthoedd a diwylliant y lle y byddwn i'n byw ynddo. Felly, yn hytrach na chymryd llety myfyrwyr, gwnes i rentu lle preifat.  Fe wnaeth fy helpu i ddysgu mwy am y diwylliant yn Abertawe. Hefyd, roeddwn i’n gweithio yn y stadiwm, a oedd yn fy ngalluogi i ddod yn agosach at bobl leol a thrwy hynny dysgais sut i ryngweithio â phobl eraill. Rwy'n credu mai'r allwedd i fywyd llwyddiannus yw gwybod sut i feithrin perthnasoedd â phobl eraill. Siarad â phobl a bod yn gyfforddus yn siarad â phobl. Abertawe oedd y lle gorau i mi.

A fyddech chi'n argymell Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill?

Cant y cant. Rydw i eisoes wedi annog rhwng 20 a 30 o bobl i fynd i Abertawe. Mae llawer o fyfyrwyr talentog yn India sydd eisiau'r profiad o astudio dramor ac rwy'n eu hannog i wneud hynny. Gan fod Abertawe yn un o'r prifysgolion gorau yn y byd, gwaeth roi gradd ardderchog i mi ac amlygiad i ddiwylliant a ffordd o fyw gwahanol. Pan roeddwn i yn Abertawe, roeddwn i'n weithgar iawn, yn chwarae pêl-fasged, yn gweithio gyda phobl eraill, yn canolbwyntio ar fy astudiaethau, ac ati. Fe wnes i hyd yn oed cymryd rhan mewn cystadleuaeth fusnes yn Abertawe, a dyfarnwyd y wobr 'entrepreneur

Hansraj 14 41

gorau' i mi. Gwnaeth hyn fy helpu i sicrhau fisa gwaith i aros yn y DU am ychydig flynyddoedd; fodd bynnag, wnes i ddim ei derbyn oherwydd roeddwn i’n awyddus i ddychwelyd i India a sefydlu busnes. Rwy'n teimlo, os ydych chi eisiau gweithio mewn busnes yn y Deyrnas Unedig, mae'n dda iawn, ond os ydych chi eisiau dechrau busnes mae'n llawer haws yn India.

Sut roedd y bwyd Indiaidd yma yn cymharu â'r bwyd gartref ym Mumbai?

Does dim cymhariaeth, ac rwy'n dweud hynny heb gasineb.  Nid yw'r rhan fwyaf o fwytai Indiaidd yn y DU mewn gwirionedd yn fwytai Indiaidd. Pobl Bangladesh sy’n berchen arnyn nhw yn bennaf. I ni fel Indiaid, gallwn ni ddeall y gwahaniaethau bach yn ein bwyd, ond mae hynny ychydig yn anoddach i bobl eraill ei ddeall.

Sut wnaethoch chi addasu i'r gwahaniaeth mewn bwyd?

A bod yn onest, bydd yn rhaid i chi ddod i India i flasu'r bwyd. Rwy'n dwlu ar fwyd Indiaidd. Rwy'n ddyn sy'n caru sbeisys a masala a tikka a phethau. Rwy'n llysieuwr pur; fodd bynnag, doedd dim opsiwn i gael hynny pan roeddwn i yn Abertawe.

Gawsoch chi sioc pan ddaethoch chi i Abertawe, a bu'n rhaid i chi brofi bwyd Prydeinig am y tro cyntaf?

Wel, ddim mewn gwirionedd. A bod yn onest, roeddwn i'n arfer mynd yn ôl i India ddwywaith y flwyddyn am fwyd, ond roeddwn i hefyd eisiau dysgu am y diwylliant yn Abertawe a'r DU. Roeddwn i eisiau dysgu a blasu'r bwyd ac yna ei ddeall, felly doedd e ddim yn sioc. Roedd e’n dda. Un o fy hoff bethau am Abertawe o ran bwyd oedd bwyta sglodion gyda saws cyri a chaws. Roeddwn i'n arfer mwynhau hynny yn fawr. Dydw i ddim yn cofio ble yn union roeddwn i'n arfer cael hynny ond roedd yn rhywbeth yr oeddwn i'n ei fwynhau'n fawr.

14 41 logo

O ystyried eich cariad at fwyd Indiaidd, beth wnaeth eich arwain i agor bwyty pizza?

Rydw i bob amser wedi meddu ar werthfawrogiad dwfn o fwyd Indiaidd, ei flasau beiddgar, ei draddodiadau cyfoethog, a'r ffordd y mae'n dod â phobl at ei gilydd. Ond ar yr un pryd, rydw i wedi cael fy swyno gan brofiadau coginio byd-eang. Un o'r trobwyntiau i mi oedd yn ystod fy amser yn Abertawe, lle rhois i gynnig ar pizza tân coed go iawn gyda chrwst tenau. Roeddwn i wrth fy modd. Roedd y symlrwydd, cydbwysedd y blasau, ac ysgafnder y crwst yn sefyll allan yn enwedig o gymharu hynny â'r fersiynau trymach, cawslyd sydd ar gael yn gyffredin yn India. Fe wnaeth y profiad hwnnw aros gyda mi, yn wir. Yr hyn a wnaeth fy hybu i agor pizzeria oedd y cyfle i ddod â'r profiad go iawn hwnnw i India, gan gyfuno apêl fyd-eang â chrefftwaith go iawn. 

Mae pizza Eidalaidd, pan gaiff ei wneud yn y ffordd draddodiadol gan ddefnyddio popty tân coed, tomatos San Marzano wedi'u mewnforio, a blawd Eidalaidd, yn cynnig blasau ac

artistiaeth pur a oedd yn taro deuddeg gyda mi. Gyda Pizzeria 14°41°, doedden ni ddim am weini pizza yn unig; roedden ni am greu profiad wedi'i wreiddio mewn dilysrwydd a phrofiad sydd hefyd yn agored i arloesi. Rydyn ni hyd yn oed wedi trwytho dylanwadau Indiaidd i rai o'n cynigion, gan greu bwydlen sy'n dathlu'r ddau fyd.

Enw’r busnes yw 14°41° Pizza. O ble daeth yr enw?

Daw'r enw 14°41° o gyfesurynnau daearyddol Napoli, yr Eidal -14 gradd i'r Dwyrain a 41 gradd i'r Gogledd. Mae dinas Napoli yn cael ei hystyried yn fan geni pizzas dilys, ac roedden ni eisiau i'n henw adlewyrchu'r dreftadaeth honno. Mae'n deyrnged i ble dechreuodd y cyfan ac mae’n ein hatgoffa am ein hymrwymiad i aros yn driw i pizza Eidalaidd traddodiadol, wedi'i goginio â thân coed â chynhwysion fel blawd Eidalaidd a thomatos San Marzano wedi'u mewnforio. 

Beth oedd rhai o'r heriau cynnar wrth sefydlu Pizza 14°41°.

Un o'r heriau cynnar mwyaf oedd cyflwyno pobl i'r cysyniad o pizza go iawn, wedi'i goginio â thân coed. Pan ddechreuon ni, roedd y rhan fwyaf o gwsmeriaid wedi arfer â pizzas trwchus â llawer o gaws, o gwmnïau masnachol. Roedd esbonio'r gwahaniaeth a gwerth pizza tenau, wedi'i ymestyn â llaw a’i goginio â thân coed, wedi'i wneud â blawd Eidalaidd a chynhwysion ffres wedi'u mewnforio yn cymryd amser ac ymdrech.

Her arall oedd dod o hyd i'r cynhwysion cywir. Roedden ni wedi ymrwymo i ddefnyddio tomatos San

Marzano a blawd Eidalaidd i gynnal y dilysrwydd ond doedd sefydlu cadwyn gyflenwi ddibynadwy ar gyfer ansawdd cyson ddim yn hawdd. Daeth hyd yn oed ein popty o'r Eidal. Mae'n pwyso tua 500 cilo a bu'n rhaid i dechnegydd arbenigol ei gydosod ar y safle. Roedd hynny yn ei hun yn dasg logistaidd enfawr.

Hefyd rhoeon ni lawer o sylw i ddylunio ein cegin. Ceginau caeedig sydd gan fwytai traddodiadol yn aml, ond roedden ni eisiau adeiladu ymddiriedaeth a thryloywder, felly dewison ni gegin gwbl agored lle gall cwsmeriaid weld sut mae eu bwyd yn cael ei baratoi. Helpodd hynny i adeiladu hyder yn ein hylendid a'n hansawdd.

Roedd danfon y bwyd yn rhwystr mawr arall. Mae ein pizzas yn ysgafn, ac roedd amodau ffyrdd Indiaidd yn ei gwneud hi'n anodd sicrhau eu bod yn cyrraedd mewn siâp perffaith. Ond dros amser, fe wnaethom ddod o hyd i atebion a helpodd i gynnal yr ansawdd wrth gludo’r bwyd. I ddechrau, roedden ni'n gweini tua 500 o gwsmeriaid y mis. Heddiw, rydyn ni'n gweini 500 y dydd.

14 41 pasta

O ran y pizzas, sut ydych chi'n cydbwyso traddodiad ac arloesedd?

Mae ein sylfaen wedi'i hadeiladu ar ddilysrwydd, ond rydyn ni bob amser yn cadw ein lleoliad mewn cof a beth mae ein cwsmeriaid yn ei hoffi. Mae tueddiadau bwyd yn esblygu'n gyson, ac felly hefyd ddewisiadau ein cwsmeriaid. Dyna pam rydyn ni'n ymdrechu i ddilyn y tueddiadau diweddaraf sy'n dod i'r amlwg ac, yn bwysicach fyth, gynnal sgyrsiau rheolaidd â'n staff; nhw yw'r rhai sy'n ymgysylltu â chwsmeriaid bob dydd ac yn gallu cynnig mewnwelediadau amhrisiadwy i ni. Mae'r trafodaethau hyn yn ein helpu i ddeall beth mae pobl yn chwilio amdano, boed hynny'n opsiynau iachach, blasau lleol beiddgar, neu rywbeth hollol newydd.

Er mwyn dod â blas Indiaidd i'n pizzas, rydyn ni wedi cyflwyno fersiynau tandwri, gan ychwanegu blas unigryw, sbeislyd. Fe wnaethom hefyd greu ein pizzas 'Cheeseless Wonders', ar gyfer cwsmeriaid sy'n ymwybodol o iechyd ac yn chwilio am opsiynau ysgafnach. Mae'r pizzas hyn wedi'u creu â'r un lefel o ddilysrwydd a chydbwysedd rydyn ni bob amser wedi'i chynnal. Felly, er nad ydyn ni byth yn gwyro oddi wrth brosesau traddodiadol i goginio pizzas, rydyn ni’n parhau i arbrofi â chynhwysion a fformatau, gan gadw pethau'n gyffrous ac yn berthnasol i'n cwsmeriaid.

Beth yw’r cyflawniad rydych chi’n fwyaf balch ohono?

Mae hwnnw eto i ddod.

Y tu allan i fyd pizzas, beth arall ydych chi'n rhan ohono?

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydw i wedi ymuno â'm busnes teuluol. Mae'r busnes teuluol yn prynu ac yn gwerthu tir yn bennaf ac yn masnachu yn y farchnad gyfranddaliadau a chyllid. Rwy'n gofalu am y busnes cyllid a'r rhan eiddo tirol ohono, yn prynu tir ac yn gwerthu tir. Mae un o fy mhrosiectau personol yn Lonavala, rhyw fath o orsaf bryn, tua 200 cilomedr oddi yma (Mumbai) lle rydyn ni'n adeiladu ac yn gwerthu filas. Mae'r prosiect yn cynnwys 25 byngalo yn y cam cyntaf. Maen nhw i gyd wedi cael eu gwerthu nawr felly byddwn yn symud i'r ail gam cyn bo hir.

Yn ôl at pizzas, beth yw eich hoff gynhwysyn pizza? 

Pe bai'n rhaid i mi ddewis hoff gynhwysyn pizza, byddai'n winwns wedi’u carameleiddio. Mae rhywbeth am y melysrwydd a'r dyfnder o flas maen nhw'n eu hychwanegu sydd wir yn gwella'r pizza. Rydw i hefyd wrth fy modd â thomatos heulsych – maen nhw wedi'u cyfoethogi â blas gwych sy'n paru'n berffaith â chyfoeth y cynhwysion eraill. Rwy'n hoff iawn o olew cloronen hefyd - mae'n ychwanegu blas mor unigryw, aromatig rydw i’n ei fwynhau’n fawr iawn ar pizzas.

Beth am bethau fel pepperoni ar pizzas? Ydy hynny'n boblogaidd?

Rwy'n llysieuwr fy hun, felly rwy'n tueddu i ddewis pizzas llysieuol, ond rwy'n gweld bod ein cwsmeriaid wrth eu boddau â'r opsiynau nad ydynt yn rhai llysieuol! Mewn gwirionedd, mae tua 70% o'r pizzas sy’n cael eu harchebu yn fy musnes i’n cynnwys salami a mathau eraill nad ydynt yn llysieuol, a pizzas llysieuol yw'r 30% sy'n weddill. O ran cynhwysion fel pepperoni, maen nhw'n go boblogaidd! Dim ond cyw iâr rydyn ni'n ei weini yn ein busnes ni, felly mae hyd yn oed ein pepperoni yn cael ei wneud â chyw iâr. Mae'n mynd yn dda ac yn rhoi cydbwysedd perffaith i'r pizza o flasau hallt a sawrus, y mae ein cwsmeriaid wrth eu boddau â nhw.

Yn olaf, Joe’s neu Verdi’s?

Rwy'n meddwl bod rhaid i mi ddweud hufen iâ Joe’s.