Joelle Drumond - Perchennog, Drop Bear Beer
BA, Ffrangeg ac Eidaleg, Dosbarth 2016
MA, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, Dosbarth 2018
Cymrawd Er Anrhydedd, 2024
Joelle Drumond - Perchennog, Drop Bear Beer
BA, Ffrangeg ac Eidaleg, Dosbarth 2016
MA, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, Dosbarth 2018
Cymrawd Er Anrhydedd, 2024
Pam penderfynoch chi astudio yn Abertawe?
Dyna gwestiwn mawr! Roeddwn i wir yn dwlu ar Abertawe o ran y cydbwysedd rhwng bywyd ac astudio. Mae'n lle hardd i astudio gan ei fod mor agos at y traeth. Pan es i'r diwrnod agored, gwnaeth angerdd y darlithwyr greu argraff dda iawn arna i. Mewn gwirionedd, y darlithwyr oedd y rheswm y gwnes i ddilyn ail iaith (Eidaleg) yn y brifysgol, a gwnaeth hynny newid fy mywyd am byth. Felly, rydw i'n ddiolchgar iawn am hynny.
Oedd gennych chi hoff leoedd ar gyfer mynd am fwyd a diod tra oeddech chi'n astudio yn Abertawe?
Pan oeddwn i'n fyfyriwr, fy hoff le oedd Uplands Diner gan fy mod i'n byw yn Uplands ar y pryd. Wedyn yn ystod fy mlynyddoedd diweddarach o astudio, fy hoff le oedd Tafarn Bryn y Môr. Mae'n wych byw yno gan fod cynifer o fariau a thafarnau.
Allwch chi ddweud mwy wrthym am eich gyrfa ers gadael y Brifysgol?
Gwnes i ddwy radd iaith ac wedyn ces i swydd yn y diwydiant roeddwn i wedi'i ddewis. Bûm yn rheolwr prosiectau mewn asiantaeth gyfieithu felly ces i swydd yn syth. Roeddwn i'n dal i wneud fy ngradd Meistr pan ges i fy nghyflogi gan yr asiantaeth, felly roedd yn lot o waith. Ond roeddwn i'n teimlo nad oedd y swydd honno’n iawn i mi ac mewn ffordd roeddwn i'n gweld eisiau amgylchedd y brifysgol, lle rydych chi'n cael eich herio drwy'r amser, rydych chi bob amser yn dysgu rhywbeth newydd ac mae digonedd o gyfleoedd i fod yn greadigol. I mi doedd cyflogaeth draddodiadol ddim yn caniatáu imi fod yn greadigol. Roedd fy ngwraig a minnau bob amser yn meddwl am syniadau busnes. Doedd dim un o'r syniadau hynny wedi dwyn ffrwyth ond pan benderfynodd hi roi'r gorau i yfed alcohol, gwnes i’r un peth. Cynigiodd hi'r syniad o fragdy di-alcohol. I ddechrau roeddwn i'n meddwl bod hynny'n syniad twp iawn ond dyma ni! Ces i un swydd amser llawn ac yna penderfynais i fod yn entrepreneur, ond hoffwn i bwysleisio pan wnes i hynny, doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod beth oedd entrepreneur - y cyfan roeddwn i am ei wneud oedd creu rhywbeth.
A wnewch chi ddisgrifio diwrnod arferol yn eich rôl bresennol?
Rydw i'n dechrau'r dydd yn flinedig iawn. Dydw i ddim yn tueddu i gysgu o achos fy efeilliaid. Rydw i'n yfed llawer o goffi. Rydw i'n gweithio gartref ac yn y bragdy. Ond mae’n well gennyf weithio yn y bragdy gan ei bod hi'n neis cael y brand a'r tîm o'm cwmpas felly rydw i fel arfer yn ceisio cadw at oriau naw tan bump er mwyn ceisio sicrhau ychydig o gydbwysedd yn fy mywyd. Ond mae'n anodd iawn gan nad oes diwrnod arferol yn fy swydd i. Rydw i'n gwneud llawer o brosiectau megis lansio cyrfau tymhorol.
Bydd fy holl ffocws ar hwnnw ac wedyn bydd hi'n amser imi wneud rhywbeth arall. Mae'n cynnwys llawer o weithio gyda chwsmeriaid, edrych ar daith y cwsmer, ystyried esblygiad y brand a meddwl, beth ydyn ni'n ei wneud yn dda? Beth ydyn ni'n ei wneud yn anghywir? Beth dylen ni ei wneud nesaf? Ac mae bob amser rywbeth i'w ddysgu, sy'n gallu bod yn hynod flinedig ond hefyd yn ysgogol iawn!
Beth oedd y syniad y tu ôl i'r enw Drop Bear?
Mae fy ngwraig i'n dod o Awstralia. Cwrddon ni â'n gilydd yn Awstralia, felly roedden ni eisiau creu brand a oedd yn ein hadlewyrchu ni mewn ffordd haniaethol a di-narsisaidd. Ac rydyn ni bob amser wedi bod yn hoff o gwrw crefft alcoholig fel defnyddwyr hefyd. Yr hyn roedden ni am ei wneud oedd cyflwyno natur unigryw a chyfrwyster cwrw crefft alcoholig i gwrw di-alcohol. Aethon ni ati i ddadansoddi'r farchnad a doedd neb arall yn gwneud dim byd cyffrous ar y pryd. Roedden ni'n meddwl, beth gallen ni ei wneud? Roedden ni'n meddwl y byddai’n dda tasai modd i ni ychwanegu natur unigryw. Mae gan gymeriad drop bear lawer o botensial marchnata ac mae'n frand lliwgar a chyffrous sydd bob amser yn arwain at y cwestiwn, beth yw Drop Bear?
Beth yw Drop Bear?
Cwestiwn gwych! Ond mae'n rhaid i mi gyfaddef nad yw Drop Bears yn bodoli yn anffodus. Ar wahân i fod yn gwrw di-alcohol da! Yn ôl pob tebyg, mae 'Drop Bear' yn cyfeirio at eirth cigysol sy'n gefnder i goalas. Dyna jôc mae pobl ledled Awstralia yn hoff o'i dweud wrth bobl dramor - ces i brofiad personol o hyn! Ac os ydych chi byth yn mynd i Awstralia, rydych chi'n sylweddoli'n gyflym fod bron popeth yn ceisio eich lladd chi. Pan glywais i am y coalas cigysol hyn sy'n hongian o'r coed ac yn ceisio ymosod arnoch chi, roedd yn gredadwy iawn ac roeddwn i wir yn ei gredu felly roedd hyn yn ffordd ddoniol o gydnabod ein treftadaeth.
Beth oedd rhai o'r heriau mwyaf wrth ddatblygu'r cwmni?
Siŵr o fod yr her fwyaf oedd sicrhau bod gennym ddigon o arian. Rwy'n dod o gefndir dosbarth gweithio iawn. Doedd dim llawer o gynilion gennyf. Pan wnaethon ni lansio Drop Bear, doedden ni erioed wedi cynnal busnes. Doedden ni erioed wedi creu busnes. Doedden ni ddim yn deall y sefyllfa ariannol ofynnol i gefnogi hynny. Felly mae wedi bod yn dipyn o gromlin ddysgu. Pan wnaethon ni lansio'r cwmni, gwnaethon ni roi ein holl gynilion yn y cwmni a gadawon ni ein swyddi. Wrth edrych yn ôl, roedd hyn yn beth gwallgof i'w wneud ond ar y pryd doedden ni ddim yn ofnus o gwbl, a chawson ni ein syfrdanu'n llwyr gan y twf cyflym y gwnaethon ni ei brofi o'r diwrnod cyntaf.
Roedden ni'n meddwl y byddai'n fater o'i lansio a'i weld yn tyfu'n organig, ond gwnaeth e dyfu'n gyflym iawn. Roedden ni'n ymwybodol iawn bod gennym benderfyniad i'w wneud. Oedden ni am gadw hyn ar raddfa fach a chanolbwyntio ar farchnadoedd lleol bob dydd Sul neu oedden ni am greu brand byd-eang? A dyna fu'r nod erioed. Roedden ni'n gwybod bod angen arian arnon ni. Fel dwy fenyw heb gysylltiadau na phrofiad, roedd hynny'n anodd! Hyd yn hyn rydyn ni wedi cynnal sawl ymgyrch codi arian ac rydyn ni wedi codi dros £3 miliwn mewn buddsoddiadau drwy gymysgedd o gyllido torfol ar crowd cube a buddsoddiadau preifat, ond mae wedi bod yn anodd. I mi roedd hyd yn oed cael pobl i gymryd y syniad o ddwy fenyw a chwrw o ddifrif yn ddigon anodd, ac ar ben hynny, roedd ceisio denu buddsoddiadau hyd yn oed yn fwy anodd, ond llwyddon ni yn y diwedd.
Dechreuodd y busnes yn 2019. Y flwyddyn cyn COVID-19. Faint o effaith cafodd hynny ar eich busnes?
Effaith fawr. Mae'n anodd gwybod a oedd COVID o fudd i'r cwmni a dweud y gwir. Mewn rhai ffyrdd roeddwn i'n ceisio bod yn bositif, ond cyrhaeddodd COVID pan roedden ni newydd gau ein cylch buddsoddi cyntaf, ac un o'n prif nodau ni a'n buddsoddwyr oedd buddsoddi o ddifrif yn y llwybr masnach a thyfu'r llwybr hwnnw, gan dargedu bariau a bwytai. Roedden ni newydd hurio ein haelodau staff cyntaf. Roedden ni wedi comisiynu'r holl waith hwn. Roeddwn ni'n ffocysu ein holl amser ar dyfu hwnnw. Ac yna dros nos, caeodd y cyfan ac roedden ni’n meddwl 'O na, rydyn ni newydd wario'r holl arian hwn! Rydyn ni wedi llywio'r busnes i'r cyfeiriad hwn ac mae'r cyfan wedi mynd. Beth ydyn ni’n ei wneud nawr? Roedd un diwrnod pan oedden ni'n eistedd yn ein heulfan yn meddwl, 'Beth ydyn ni’n ei wneud nawr? Does dim modd i ni neud popeth rydyn ni wedi cynllunio ei wneud. Dydy ein cynllun busnes ni ddim yn werth dim byd nawr', ond gan ei fod wedi effeithio ar ein busnes ar y cam cynnar iawn hwnnw, roedd modd i ni fod yn hyblyg ac roedden ni'n gallu addasu. Ar y pryd doedd dim siop ar y we gyda ni hyd yn oed felly gwnaethon ni ganolbwyntio'n helaeth ar allforio i farchnadoedd a oedd yn fwy agored na’r DU a gwnaeth hynny ein helpu ni i dyfu 2,000%. Gwnaethon ni lansio ar Amazon, gwnaethon ni lansio ein siop ein hunain ar y we a gwnaeth hynny ein galluogi ni i oroesi a ffynnu yn ystod y pandemig. Mantais arall oedd bod ein marchnad yn tyfu'n gyflym iawn. Roedd mwy o gystadleuwyr yn dod i’r farchnad, gydag enwau mawr yn achub ar y cyfle i ddarparu'r hyn a fyddai wedi bod ar gael i'r cwsmeriaid yn y bariau ac ar y silffoedd yn y siopau. Yn ystod y pandemig symudodd llawer o gwsmeriaid ar-lein. Felly, roedd cyfle gan y brandiau i ymgysylltu â'u cwsmeriaid mewn ffordd go iawn. Roedd modd i ni greu criw cryf o gwmpas y brand a bydden ni wedi ei chael hi'n anodd gwneud hynny tasai bywyd wedi parhau yn ôl yr arfer yn ystod y cyfnod hwnnw.
Sut ydych chi'n darbwyllo'r rhai hynny sy'n yfed cwrw traddodiadol i roi cynnig ar opsiynau di-alcohol a'u croesawu?
Mae dwy ffordd i ateb hyn. Rhif un yw peidiwch â phregethu i bobl gan nad oes neb yn mwynhau cael rhywun yn dweud wrtho fod yr hyn mae’n hoffi ei wneud yn anghywir ac y dylai fod yn yfed diodydd gwahanol. Fyddai neb yn hoffi hynny. Ymagwedd ein brand ni yw "mae croeso i chi yfed hyn os ydych chi eisiau, ond os nad ydych am wneud hynny, mae hynny’n iawn". Ond y ffordd orau o ddarbwyllo rhywun i roi cynnig ar y cwrw yw ei annog i'w flasu. Achos yn fy marn i, unwaith mae pobl yn sylweddoli ei fod yn blasu fel cwrw, sy'n cael ei wneud gan fragwyr, ei fod yn cefnogi swyddi, a does dim cyfaddawd o gwbl, wel, mae'n benderfyniad hawdd.
Ydych chi'n gweld y farchnad ddi-alcohol yn esblygu?
Mae'n esblygu. Dyma'r tuedd diodydd sy'n tyfu gyflymaf. Roedd hynny'n wir cyn i ni lansio, ac mae'n parhau i fod yn wir heddiw. Rydyn ni'n gweld llawer mwy o arloesi, wrth i fathau newydd gael eu cyflwyno ac mae archfarchnadoedd yn mabwysiadu cyrfau mewn ffyrdd gwahanol. Pan wnaethon lansio i ddechrau, roedd gweld ychydig o'r brandiau mawr fel Heineken yn normal. Nawr mae gennych chi fwy o gystadleuwyr annibynnol, ac nid yn unig o ran caniau neu boteli unigol, ond hefyd mewn pecynnau mwy o faint, sy'n dangos bod y cwsmeriaid yn fwy parod i gymryd risg. Flynyddoedd yn ôl, yn ôl y data, byddai pobl yn mynd i Tesco ac yn prynu can, ond erbyn hyn maen nhw'n hapus i brynu pecyn llawn yn syth. Mae ganddyn nhw lawer mwy o ffydd yn y diwydiant. Ac wedyn yn amlwg mae'r diwydiant wedi esblygu drwy gyflwyno casgenni bach a phecynnau mawr. Rwy'n credu y byddai pawb yn cytuno mai cael peint ffres mewn tafarn yw'r cam nesaf ar gyfer di-alcohol.
Mae cynaliadwyedd yn rhan fawr o'ch ethos. Felly pam mae hynny mor bwysig ichi?
Rydw i'n credu bod llawer o frandiau bellach yn cymryd hyn o ddifrif. O safbwynt masnachol, mae'n gwneud synnwyr. Mae'n bwysig i gwsmeriaid. Hyd yn oed yn ystod yr argyfwng costau byw, mae pobl yn dal i boeni am y byd rydym yn byw ynddo, ond o'm safbwynt personol i, mae Sarah a minnau'n gwsmeriaid ac yn unigolion eco-ymwybodol iawn ein hunain. Rydyn ni bob amser wedi eisiau creu rhywbeth y gallwn ni fod yn falch ohono. "Rhywbeth i adael ein marc ni”. Roedd yn rhaid iddo adlewyrchu'r gwerthoedd rydyn ni'n eu rhannu. Mae'n deillio o hynny mewn gwirionedd.
Pa gyngor byddech chi'n ei roi i entrepreneuriaid eraill sy'n awyddus i greu busnes moesegol?
Rwy'n credu ei bod yn wych os ydych chi am ddefnyddio eich busnes i gael effaith gadarnhaol ar y byd ond cofiwch arfer eich barn fasnachol hefyd - os nad ydych chi'n gallu talu'r biliau, fyddwch chi ddim yn helpu neb! Mae'n rhaid sicrhau cydbwysedd drwy'r amser, ac weithiau mae angen cyfaddawdu yn y tymor byr. Rwy'n edrych ar bethau mewn du a gwyn, felly roedd yn anodd imi dderbyn hynny. Roeddwn i eisiau bod yn 100% am bopeth, ond weithiau, mae angen i chi fod yn 70% ac wedyn gallwch chi fod yn 80% y flwyddyn ganlynol.
Sut mae'ch hunaniaeth wedi llunio'ch taith fel perchennog busnes?
Rwy'n eithaf ifanc. Roedd ein hegni’n eithaf deniadol i rai o'r bobl y gwnaethon ni weithio gyda nhw rwy’n credu. Mae wedi bod yn eithaf anodd rhoi gorchmynion i dimau o bobl sy'n llawer hŷn na chi, ac sydd weithiau â llawer mwy o brofiad hefyd. Mae rheoli'r ddeinameg honno'n heriol, ond rydym wedi'i chroesawu a llwyddo i'w gweithredu. Rwy'n credu bod y pethau sy'n bwysig i ni, fel hawliau pobl hoyw neu hawliau cyfartal i bawb, mewn gwirionedd, wedi llunio'r busnes. Hynny yw, pa mor foesegol rydym ni fel busnes, dod yn garbon niwtral ac ati - mae hyn oll yn deillio o'n hunaniaethau.
Ydych chi'n teimlo eich bod chi'n cyrraedd cam gwahanol nawr? Mae'r busnes bellach wedi'i sefydlu'n dda.
Yn bendant. Rydyn ni'n siarad â llawer o berchnogion busnes ac entrepreneuriaid, a dydych chi ddim yn sylweddoli'r effaith mae bodoli fel menywod hoyw yn ei chael hyd yn oed. Roedd y syniad o fod mor amlwg a gweladwy ar y rhyngrwyd yn frawychus i ni. Ond eto, yn ystod y pandemig, gwnaethon ni sylweddoli bod angen hynny ar y cwsmeriaid, felly dyna beth dechreuon ni ei wneud. Ond eto pan oedden ni'n mynd i seremonïau gwobrwyo, roedd cynifer o berchnogion busnes yn dod aton ni i ddweud faint o wahaniaeth roedd wedi'i wneud iddyn nhw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig lleisio eich barn a bod yn garedig mewn byd lle mae cymaint o gasineb. Mae angen i chi ddangos eich bod chi'n gallu llwyddo. Rydych chi'n gallu gwneud pethau gwych a bod yn berson neis o hyd.
Sut mae'n teimlo i fod ar flaen y gad o ran hynny i gyd, ac i fod y bragdy di-alcohol LHDTCRhA+ cyntaf?
Mae'n gallu teimlo'n ynysig weithiau. O safbwynt marchnata, mae'n wych gallu dweud 'O, ni yw'r rhai cyntaf i wneud hyn. Ni yw'r rhai cyntaf i wneud hynny'. Ond dydy pobl ddim yn meddwl am ba mor unig mae hynny'n gallu bod. Does neb sydd wir yn deall y profiad unigryw hwnnw, ond rwy'n credu bod hynny'n ysgogydd cryf. Yn unig, ond yn bwysig, byddwn i'n dweud. Ac rwy'n gobeithio y bydd yn dod yn llai unig ond pwy a ŵyr?
Oes gennych chi gynlluniau i gyflwyno rhagor o gyrfau? Oes unrhyw rai tymhorol rydych chi'n eu cynhyrchu drwy gydol y flwyddyn?
Oes, rydyn ni'n gobeithio lansio ychydig o gyrfau tymhorol dros yr haf. Rydym yn lansio cyfres lager cymysg, sy'n cynnwys pedwar cwrw gwahanol wedi'u cymysgu â ffrwythau gwahanol. Felly, mae grawnffrwyth pinc, mafon, gwafa ac eirin gwlanog. Yn bersonol dydw i ddim yn yfed llawer o lager ond dyna rywbeth arall i'w gadw mewn cof - rwy'n credu bod angen i bobl gofio nad yw popeth ym myd busnes yn ymwneud â'r hyn rydych chi ei eisiau, yr hyn mae eich cwsmeriaid ei eisiau sy'n bwysig.
Yn ddiweddar rydych chi wedi prynu brand Tomos Watkins. Pa gynlluniau sydd gennych chi i ddatblygu cyrfau’r brand hwnnw? Ydych chi'n rhagweld y byddwch yn uno brandiau Drop Bear a Tomos Watkins?
Pan wnaethon ni gymryd yr awenau, roedd gan y brand bortffolio mawr o gyrfau a oedd oll yn dod yn llai poblogaidd, felly roedden ni eisiau adnewyddu'r brand a rhoi ffocws newydd iddo. Gwnaethon ni adolygu popeth a bellach rydyn ni wedi lleihau'r cyrfau sydd ar gael i bump. Rydyn ni wedi cadw tri o'r rhai mwyaf poblogaidd ac wedi cyflwyno dau gwrw newydd sy'n seiliedig ar ddata am y farchnad ac sydd â chyfleoedd am dwf. Rydyn ni wedi'u cyflwyno ar ffurf poteli, pecynnau mawr, casgenni a chasgenni bach. Rwy'n credu bod llawer o gyfleoedd ar gyfer cyrfau tymhorol yn ogystal â chydweithio. Mae gennym rai diddorol yn yr arfaeth. Er mai Drop Bear yw'n ffocws ni, rwy'n falch ein bod ni wedi llwyddo i achub Tomos Watkins. Roedd pethau'n mynd o ddrwg i waeth i'r brand ond bellach mae wedi tyfu llawer drwy gynnig llai o gyrfau. Weithiau rwy'n credu os ydych chi'n ceisio gwneud gormod ar yr un pryd mae'n anodd ffocysu ac rydych chi wedyn yn gwneud pethau'n waeth o ganlyniad.
Rydych chi'n dal i fod mewn cysylltiad â Phrifysgol Abertawe ers graddio, beth mae derbyn cymrodoriaeth er anrhydedd gan y Brifysgol yn ei olygu i chi?
Mae'n anrhydedd enfawr. Fyddwn i byth wedi dychmygu, pan es i'r diwrnod agored hwnnw, y byddwn i yma gyda hyn a chymrodoriaeth er anrhydedd. Roedd gan Abertawe, fel sefydliad, yr un gwerthoedd â mi. Rydw i wedi cadw mewn cysylltiad â'r Brifysgol ac wedi siarad fel siaradwr gwadd mewn digwyddiadau, trafodaethau panel gyda myfyrwyr busnes ac ati. Daeth y Gymrodoriaeth Er Anrhydedd ar adeg yn fy mywyd pan oedd plant gyda fi ac roeddwn i'n ceisio cynnal busnes. Roedd hi fel cael argyfwng hunaniaeth mawr, lle rydych chi'n ceisio rhagweld pennod nesaf eich bywyd, pwy ydych chi ac ati. Felly roedd cael y lefel honno o gydnabyddiaeth ar adeg pan oeddwn i mewn argyfwng o ran diffyg hyder, yn hwb mawr i mi a helpodd mi i roi pethau mewn persbectif.
Pe gallech chi roi un darn o gyngor i rywun sy'n ystyried dechrau yn y diwydiant bwyd a diod, beth fyddai'r cyngor hwnnw?
Wel, aeth y busnes o nerth i nerth ac roedden ni'n benderfynol o lwyddo. Dydw i ddim yn cofio adeg pan oedden ni fel 'Iawn te, rydyn ni'n mynd i ymrwymo 100% i hyn nawr', gan mai dyna oedd ein hagwedd ni o'r eiliad dechreuon ni. Roedden ni'n gwybod y bydden ni'n gwneud iddo weithio. Rwy'n credu tasen ni'n mynd i'w wneud e eto, byddwn i'n treulio mwy o amser yn cynllunio. Cofiwch sicrhau bod gennych y cyllid i'ch cefnogi i wneud i bethau ddigwydd - dydych chi ddim eisiau treulio'ch holl amser yn chwilio am arian yn hytrach na gweithio ar y busnes, ac mae hyn wedi bod yn risg i ni ar adegau. Sicrhewch fod gennych chi'r arian i wneud beth rydych chi am ei wneud a gwnewch eich gwaith ymchwil. Unwaith eto, rwy'n gweld cynifer o bobl yn gwneud rhywbeth gan mai dyna beth maen nhw am ei wneud yn hytrach na bod yn gyfle go iawn i wneud rhywbeth. Felly, gwnewch yn siŵr bod pobl eisiau'r hyn rydych chi'n ei gynnig a bod gennych rywbeth unigryw i'w gynnig.
Yn olaf, Joe’s neu Verdi’s?
Joe’s, heb os!