Sgrwbiwch y tatws yn lân, neu piliwch nhw os yw'n well gennych. Torrwch nhw yn giwbiau o 2.5cm, yna rinsiwch nhw a'u mwydo mewn dŵr oer wrth i chi wneud elfennau eraill y rysáit hon
I wneud y saws bravas, rhowch hanner yr olew olewydd ysgafn mewn padell ffrio ddofn dros wres canolig, ychwanegwch y garlleg a'i ffrio nes ei fod yn euraidd. Ychwanegwch y tsilis a throwch y cyfan, ychwanegwch y perlysiau a'u ffrio am funud. Nawr ychwanegwch y paprica mwg, y winwns a'r pupurau, a choginiwch y cyfan am 30 munud, gan ei droi'n rheolaidd fel nad yw’n dal nac yn llosgi.
Arllwyswch y gwin i mewn a lleihau’r cyfan i hanner. Ychwanegwch y tomatos a mudferwch am o leiaf 45 munud, neu nes bod y cyfaint wedi haneru. Rhowch y cymysgedd o'r neilltu i oeri, yna ei drosglwyddo i gymysgydd a'i falu am 2 funud, nes ei fod yn hufennog ac yn llyfn. Blaswch ac addaswch y sesnin.
Gellir gwneud yr alioli sieri mewn prosesydd bwyd os dymunwch, ond mae'n well gennym y dull llaw. Rhowch y melynwy, y garlleg, y finegr a'r sieri mewn powlen, ychwanegwch binsiad mawr o halen a chwisgwch y cyfan yn egnïol am ychydig funudau, nes ei fod wedi emwlsio. Nawr dechreuwch ychwanegu'r olewau ddiferyn ar y tro, gan chwisgo'n barhaus fel nad yw'r cymysgedd yn hollti. Cynyddwch yr olew yn raddol i ddiferion araf, ac yn y pen draw i lif cyson, gan chwisgo nes i chi deimlo fel bod eich braich ar fin disgyn i ffwrdd. Daliwch ati nes bod y mayonnaise yn llyfn. Blaswch ac addaswch y sesnin, gan ychwanegu ychydig mwy o finegr os dymunwch. Rhowch ef yn yr oergell nes bod ei angen.
I wneud yr halen rhosmari, rhowch ychydig o olew olewydd ysgafn mewn padell ffrio dros wres canolig, ychwanegwch y rhosmari a’i ffrio am 2 funud, neu nes ei fod yn grimp. Draeniwch y rhosmari ar bapur cegin, yna ei rhoi mewn cymysgydd gyda'r halen a'r paprica mwg a'i falu'n bowdr mân. Wedi'i storio mewn cynhwysydd plastig aerglos, bydd hyn yn cadw am hyd at 3 mis.
Draeniwch y tatws, trosglwyddwch nhw i sosban o ddŵr hallt oer a dewch â nhw i'r berw. Gostyngwch y gwres i fudferwi a’u coginio nes eu bod yn dyner (dylai fforc fynd i mewn heb wthio llawer). Draeniwch y tatws a’u gadael i oeri a sychu mewn colandr.
Ysgwydwch y tatws i fflwffio'r ymylon. Rydyn ni bob amser yn dweud wrth ein cogyddion y dylai'r tu allan fod yn debyg i amlinelliad arfordir creigiog – mwy o gyfle i'r olew hyfryd hwnnw dreiddio i'r cilfachau a chrisbio'r cnawd. Os gallwch chi gynllunio ymlaen llaw, mae'n wych eu hoeri ar y cam hwn, dros nos os yw’n bosibl.
Mae dau ddull o goginio'r tatws, felly dewiswch chi…
Dull 1: Llenwch ffrïwr dwfn ag olew olewydd ysgafn a'i gynhesu i 160ºC. Fel arall, llenwch sosban fawr un rhan o dair yn llawn â’r olew a’i gynhesu nes bod ciwb o fara yn brownio mewn 1 funud. Ffriwch y tatws yn hwn unwaith, am tua 5 munud, nes eu bod wedi’u lliwio'n ysgafn ar y tu allan. Trosglwyddwch y tatws i blât wedi'i leinio â phapur cegin, gadewch nhw i oeri, yna rhowch nhw yn yr oergell dros nos neu o leiaf nes eu bod yn oer.
Pan fyddwch chi eisiau eu gweini , cynheswch yr olew i 190ºC, neu nes bod ciwb o fara yn brownio mewn 20–30 eiliad, yna ffriwch y tatws eto nes eu bod yn grimp ac yn euraidd ar y tu allan ond yn feddal yn y canol. Draeniwch nhw, yna eu sesno â’r halen rhosmari.
Dull 2: Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 220ºC/200ºC Ffan/Nwy marc 7. Ychwanegwch 75ml o olew olewydd at hambwrdd rhostio a'i roi yn y ffwrn nes ei fod yn boeth iawn (tua 10 munud). Ychwanegwch eich tatws wedi'u hoeri, wedi'u ysgwyd, croen y lemwn, y rhosmari, y teim a'r garlleg a'u cymysgu'n dda. Rhostiwch y tatws am tua 45 munud, gan eu troi unwaith neu ddwywaith. Sesnwch y tatws â’r halen rhosmari.
NODIADAU
- Po fwyaf o ymdrech rydych chi'n ei roi i'r tatws, y mwyaf rydych chi'n ei gael allan. Mae'r math o datws yn ogystal ag oeri'r tatws yn syth ar ôl eu berwi a'u hysgwyd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Maris Piper, King Edwards a Desirée yw'r mathau gorau.
- Ar gyfer y saws bravas gallwch gynyddu neu leihau' lefel y sbeis fel y dymunwch, gan hyd yn oed hepgor y tsilis yn gyfan gwbl os hoffech. Gellir defnyddio'r saws gyda llawer o seigiau eraill hefyd, fel pasta, seigiau wedi'u pobi, cyw iâr a physgod.