Gan ystyried y tuedd diweddar o safbwynt bwyd, roedden ni'n meddwl a ydych chi erioed wedi meddwl am y math o fwyd yr oedd y Rhufeiniaid yn arfer ei fwyta?    (Wedi’r cyfan, deiet yw sylfaen popeth!).

Mae Dr Ian Goh, uwch- ddarlithydd y Clasuron, wedi ystyried hyn! Mae e wedi bod yn gweithio ar lawysgrif amaethyddol 1960 oed gan Sbaenwr o'r enw Columella, sy'n trafod tasgau rheolwraig fferm, a'r prif dasg i bob golwg oedd piclo!  Ac mae Ian wedi rhoi cynnig ar rai prydau! Roedden ni eisiau rhannu un â chi...

Moretum - Rysáit Rufeinig ddi-ffwdan - yr hyn a fyddai'n cyfateb i ginio gwerinwr neu pesto! 

Moretum

Moretum

Mae diddordeb Dr Goh mewn bwyd hynafol yn deillio o'i waith yn astudio gwaith beirdd yn Lladin gan fod eu disgrifiadau nhw o moretum a'i arwyddocâd i fywydau'r Rhufeiniaid wedi ennyn ei chwilfrydedd. 

Mae llawer o fanylion am y rysáit yn amrywio'n sylweddol yn y llenyddiaeth, heb roi fawr o sylw i symiau, na’r cynhwysion eu hunain hyd yn oed mewn rhai achosion.  Byddai'n deg holi a fyddai unrhyw fersiwn o moretum yn blasu fel moretum arall o gwbl hyd yn oed! Heb sôn bod rhai bwydydd, megis garlleg ag arogl cryf, yn arwydd o ddosbarth cymdeithasol. Ac nid yw o leiaf un ohonynt, silphiwm, yn bodoli mwyach o bosib. 

I ganfod mwy am y pryd bwyd Rhufeinig clasurol hwn ac eraill, gallwch wylio Dr Goh ar restr chwarae Classical Cuisine with Ian Goh ar sianel y Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg Prifysgol Abertawe. Neu i ddarllen mwy am ei waith diddorol ar fwyd hanesyddol a hanes diwylliannol Rhufain, edrychwch ar ei broffil staff , lle ceir dolenni i'w bapurau ymchwil. Gallwch chi hefyd ddarllen ei bostiad blog Food, Glorious Food.

Cofiwch roi gwybod i ni sut roedd eich moretum yn blasu ac a ydych chi wedi rhoi cynnig ar unrhyw ryseitiau Rhufeinig eraill gan ddefnyddio ein cyfeiriad e-bost alumni@abertawe.ac.uk, neu ar unrhyw rai o'n sianeli cymdeithasol!