Myfyrwyr yn cyfrannu at y wobr drwy roi sbwriel yn y biniau a chadw ein campysau’n lân

Abertawe'n ennill Gwobr Masnach Deg o fri am arwain y ffordd ar Fasnach Foesegol

Unwaith eto, mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Prifysgolion a Cholegau Masnach Deg ar gyfer 2025, sy'n gydnabyddiaeth enfawr am y gwaith anhygoel a wneir ar draws y campws i gefnogi masnach foesegol, cynaliadwyedd a chyfiawnder byd-eang.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Abertawe wedi dangos gwir ymrwymiad i wneud treuliant foesegol yn rhan o fywyd pob dydd y brifysgol. O addysgu a gwaith ymchwil i'r bwyd rydym yn ei werthu ar y campws, a'r ffordd rydym yn prynu nwyddau a gwasanaethau, mae pob rhan o'r brifysgol wedi chwarae ei rhan wrth sicrhau'r wobr hon.

Nid ar chwarae bach rydych chi'n ennill Gwobr Prifysgolion a Cholegau Masnach Deg. Caiff ei chynnal gan y Sefydliad Masnach Deg a Students Organising for Sustainability UK (SOS-UK), ac mae'n cydnabod sefydliadau sy'n mynd gam ymhellach i gynnwys myfyrwyr a staff wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau byd-eang drwy fasnach foesegol.

Bu'r wobr yn edrych ar bob agwedd o sut mae cynaliadwyedd yn cael ei gynnwys mewn cyrsiau, i ymgyrchoedd Masnach Deg ar y campws, i sut mae'r Brifysgol yn gwneud penderfyniadau prynu, gyda phwyntiau ychwanegol am ddangos creadigrwydd ac arloesi o ran sut rydym yn cynnwys cymuned y campws cyfan.

Meddai Teifion Maddocks, Rheolwr Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe:

"Mae ennill y wobr hon yn adlewyrchu ymrwymiad Prifysgol Abertawe i ganfod pethau mewn ffordd foesegol, cyfrifoldeb amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol.Mae'r gydnabyddiaeth hon yn cyd-fynd yn agos â'n gweledigaeth am ddatblygiad cynaliadwy a nodau sefydliad Masnach Deg ar gyfer cynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

"Rydym yn falch o weithio gyda'n myfyrwyr a’n staff i hyrwyddo tâl teg, amodau gweithio diogel a chadwyni cyflenwi cynaliadwy. Mae'r ardystiad hwn hefyd yn grymuso myfyrwyr i ymgysylltu â heriau cynaliadwyedd byd-eang a datblygu sgiliau gwyrdd gwerthfawr megis archwilio ESG.

"Mae'n atgyfnerthu ein hymrwymiad i'r nodau a nodwyd yn Strategaeth Gynaliadwyedd y Brifysgol ac mae'n sicrhau bod y cynnyrch rydym yn eu cynnig ar y campws yn cyfrannu at fyd tecach a mwy cynaliadwy".

Mae'r Sefydliad Masnach Deg hefyd yn amlygu pa mor bwysig yw prifysgolion yn y frwydr am gyfiawnder masnachu. Meddai Sarah Brazier, Pennaeth Ymgyrchoedd y Sefydliad:

"Ar ôl dathlu 30 mlynedd o Fasnach Deg yn y Deyrnas Unedig y llynedd, mae prifysgolion yn chwarae rhan hanfodol yn y sefydliad Masnach Deg. Mae angerdd ac egni myfyrwyr yn ganolog i greu byd tecach. Mae gwerthu cynhyrchion Masnach Deg ar y campws, siarad dros ffermwyr a gweithwyr ledled y byd, a mentrau dan arweiniad myfyrwyr oll wedi cyfrannu at newid.”

Ar beth y cawsom ein hasesu?

I ennill y wobr, roedd yn rhaid i Abertawe ddangos cynnydd ar draws y canlynol:

  • Y cwricwlwm ac ymchwil - sut rydym yn cynnwys masnach foesegol a chynaliadwy wrth addysgu.
  • Ymgyrchu a dylanwad - effaith mentrau a arweinir gan fyfyrwyr a chodi ymwybyddiaeth.
  • Caffael, arlwyo a manwerthu - sicrhau bod masnach deg a chanfod pethau mewn ffordd foesegol yn rhan go iawn o'r hyn rydym yn ei gynnig ar y campws.

Diolch i bawb a fu'n rhan o hyn, gan gynnwys myfyrwyr, staff a'n Tîm Cynaliadwyedd. Mae hwn yn eiliad balch i Abertawe, ac yn gam mawr ymlaen yn ein cenhadaeth i greu prifysgol fwy cynaliadwy sy'n gyfrifol yn gymdeithasol.

Rhagor o wybodaeth am gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe

Rhannu'r stori