
Rydym wedi partneru â Zombie Plastics i greu daliwr cerdyn staff/myfyriwr economi gylchol.
Ar ôl y cydweithrediad hynod lwyddiannus gyda'n carabiners glanhau'r traeth, yn gwaredu gwastraff oddi ar ein traethau ac yn creu cynhyrchion economi gylchol, roeddem am barhau â'n hymdrech gymdeithasol werthfawr.
Gwnaethom benderfynu ar y dalwyr cardiau gan fod pob myfyriwr ac aelod o staff yn meddu ar un ohonynt ac nid ydynt yn rhywbeth sy'n cael eu gwneud yn lleol nac o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu ar hyn o bryd. Gan fod y gadwyn gyflenwi'n fawr a'r allyriadau trafnidiaeth yn uchel, roeddem yn meddwl y byddai hwn yn gynnyrch perffaith i'w wneud yn lleol a chanddo stori/budd cymdeithasol.
Gan gynnwys codau QR y tu mewn i'r dalwyr i adrodd y stori ond hefyd er mwyn cysylltu â'n gwefan i hybu cyfranogiad uniongyrchol yn ein holl ddigwyddiadau, hyfforddiant a gwaith ymgysylltu.
Rydym newydd dderbyn y cant daliwr cyntaf ac rydym bellach mewn trafodaethau ag Y Stwdio, Cost Cutter a JC's ar y campws i ddechrau gwerthu'r eitemau hyn yn ehangach.
Hoffem ddiolch i Zombie Plastics am y cydweithrediad gwych hwn ond hefyd am yr holl waith arall rydym wedi'i wneud gyda'n gilydd, fel ein gweithdy economi gylchol yn ystod Wythnos Byddwch yn Wyrdd yn yr Ysgol Reolaeth.
Rydym yn gobeithio parhau i ddatblygu cynhyrchion gyda'r economi gylchol mewn golwg.