Darlithoedd Nadolig Blynyddol – 15 - 16 Rhagfyr 2025
Cynhelir y digwyddiad rhad ac am ddim hwn, sy'n addas ar gyfer Blynyddoedd 10–12, rhwng 11:00yb a 14:00 yp ac mae'n cynnwys:
- Prif ddarlith gan academydd blaenllaw – pwnc i'w gadarnhau
- Cyflwyniadau diddorol gan fyfyrwyr ymchwil presennol yn arddangos cyffro eu gwaith
Lleoliad: Campws Parc Singleton, Prifysgol Abertawe
Cinio: Gall disgyblion brynu cinio o fannau arlwyo amrywiol ar y campws. Bydd croeso cynnes i athrawon sy'n cadw cwmni i'r disgyblion ymuno â ni am ginio bwffe am ddim, gyda'r cyfle i gwrdd â'n staff academaidd Ffiseg.
Parcio: Bydd mannau parcio i fysus mini ar gael yn y maes parcio i ymwelwyr . Nodwch eich anghenion o ran parcio yn y ffurflen.
Mae nifer cyfyngedig o seddi ac mae disgwyl i'r galw fod yn uchel, felly argymhellir archebu yn gynnar.
I gadarnhau eich presenoldeb, cwblhewch y ffurflen ganlynol erbyn dydd Gwener 3 Rhagfyr.
Ffurflen