‘Cynhelir y mwyafrif o ymchwil ffiseg gan dimau a’i datblygu drwy rannu a thrafod gan gynnwys safbwyntiau gwahanol. Mewn sawl ffordd, mae ymchwil eisoes wedi’i seilio ar raddfa fawr o wahaniaeth cymdeithasol (e.e. cenedligrwydd amrywiol oherwydd symudedd a chymuned fyd-eang gryf), ond, mewn prif feysydd eraill, mae diffyg amrywiaeth yn yr ymdrechion gwyddonol – yn benodol o ran menywod, grwpiau lleiafrifoedd penodol a phobl ag anableddau. Mae profi cynnydd ym maes ffiseg yn dibynnu ar fagu rhagoriaeth a dawn. Trwy hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, rydyn ni’n ceisio cefnogi’r gronfa ddoniau sy’n ehangu a chynyddu cynnwys grwpiau a dangynrychiolwyd yn draddodiadol’ – Yr Athro Peter Dunstan, Pennaeth Adran.
Mae’r Adran Ffiseg yn ymrwymedig i wella canlyniadau a phrofiad Addysg Uwch ar gyfer staff a myfyrwyr. Mae angen i ni sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fynd i’r afael ag unrhyw gwestiynau nad ydynt wedi’u hateb ym maes ffiseg. Mae ein gweledigaeth ar gyfer ffiseg yn yr 21ain Ganrif yn un sy’n cynnwys pawb.
Mae gan yr Adran Bwyllgor Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynwysoldeb sy’n cyfarfod unwaith y tymor. Caiff menywod a dynion, uwch academyddion a myfyrwyr ôl-raddedig, staff parhaol a staff rhan-amser oll eu cynrychioli ar y pwyllgor. Mae Pennaeth yr Adran yn eistedd ar y pwyllgor gan ddangos yr ymrwymiad i wella ein harferion gwaith er lles pawb. Mae cyfle cyfartal yn allweddol i bawb.
Os hoffech chi wybod mwy neu os hoffech chi wneud awgrymiadau i’r pwyllgor e-bostiwch ni yn py-dei@abertawe.ac.uk