Yr Her
Efallai drwy gael profiad uniongyrchol neu drwy'r teulu a ffrindiau, mae pawb yn ymwybodol o'r effaith ddinistriol y mae canser yn ei chael ar fywydau pobl. Er bod triniaethau a disgwyliadau oes wedi gwella, ceir heriau sylweddol o hyd er mwyn gwella canlyniadau i gleifion.
Canser y coluddyn neu ganser y colon a'r rhefr yw'r trydydd canser mwyaf cyffredin yn fyd-eang, ac mae'n gyfrifol am 1.9 miliwn o achosion newydd a 900,000 o farwolaethau bob blwyddyn. Mae diagnosis cynnar yn hanfodol wrth leihau cyfraddau marwolaethau, eto i gyd mae 60% o gleifion yn cael diagnosis ar gamau hwyr (III/IV), sy'n lleihau cyfraddau goroesi 5 mlynedd yn sylweddol.
Yn unol â Canfod Canser yn Gynnar a Diagnosis o Ganser CRUK: Map Ffordd i'r Dyfodol 2020, 'os gellir rhyng-gipio canser ar y cyfnod amser cynharaf sy'n glinigol berthnasol, mae hyn yn rhoi llawer gwell siawns o oroesi a gwell ansawdd bywyd. Mae canfod a diagnosis cynnar, felly, yn dod i’r amlwg fel blaenoriaeth i sefydliadau ar draws y DU ac yn fyd-eang fel arf pwysig ar gyfer ymestyn ac achub bywydau.’
Mae ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yn mynd i'r afael â her prawf anfewnwthiol effeithiol er mwyn canfod canser y coluddyn yn gynnar.
Y Dull
Gyda chymorth cyllidol gan Ymchwil Canser Cymru, Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (Gwobr Cyflymu'r Effaith) a Llywodraeth Cymru (cronfeydd ETTF ac RfPPB), mae gwaith cydweithredol rhwng ffisegwyr a chlinigwyr o Brifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi dyfeisio prawf gwaed anfewnwthiol syml a all ddychwelyd canlyniadau prawf ymhen llai nag 20 munud.
Gan ddefnyddio arloesiadau sy'n seiliedig ar ddadansoddeg ar sail sbectrosgopeg laser a deallusrwydd artiffisial (AI), mae'r prawf yn dadansoddi gweithgarwch metabolig mewn gwaed yn sgîl canser y mae ein meddalwedd AI wedi'i dyfeisio i'w ddehongli a'i ddiagnosio. Roedd ein hymchwil gychwynnol yn canolbwyntio ar ganser y coluddyn (a adnabyddir fel y colon a'r rhefr hefyd), ac roedd y prawf wedi'i ddyfeisio i ganolbwyntio ar gleifion ac i fod ar gael drwy eu meddyg teulu.
Rydym wedi creu CanSense Ltd, cwmni technoleg feddygol cychwynnol gan Brifysgol Abertawe sy'n trosi'r ymchwil glinigol ac academaidd hon sy'n llawn effaith i fodloni'r farchnad fyd-eang gynyddol mewn diagnosteg canser.
Mae gwaith arloesi CanSense yn ceisio darparu ateb fforddiadwy i waith canfod canser ar gam cynnar, drwy ddefnyddio un prawf gwaed syml, a'n nod yw lleihau marwolaethau oherwydd canser yn sylweddol drwy ganfod canserau'n gynnar pan fo eu triniaethau'n wellhaol.
Ar hyn o bryd, mae meddygon teulu'n gwneud penderfyniad cymhleth o ran cleifion sy'n dod atynt â symptomau amhenodol. Mae'n rhaid i gleifion â symptomau fodloni meini prawf NICE cyn i'w meddygon teulu eu cyfeirio ar y llwybr 'aros am bythefnos' neu 'ganser tybiedig brys' (USC). Mae meini prawf yr USC yn eithrio cleifion iau sydd â symptomau amhenodol rhag cael eu hatgyfeirio'n gyflym, gan gyfrannu at epidemig o ganfod canser y colon a'r rhefr yn hwyr ymhlith pobl iau.
Yn y sefyllfa bresennol, mae llawer o gleifion yn cael eu hatgyfeirio am golonosgopi mewnwthiol yn ddiangen, ac mae hyn yn rhoi pwysau ar linell amser yr USC. Er mwyn canfod un canser â'r llwybr presennol, mae angen i 32 o gleifion gael colonosgopi diagnostig mewnwthiol. Mae hyn yn creu argyfwng o ran capasiti ac oedi wrth gael triniaeth i'r cleifion hynny sydd â chanser.
Ar hyn o bryd, mae'r prawf gwaed yn cael ei dreialu'n glinigol yn y Deyrnas Unedig. Y nod yw gwneud y prawf gwaed hwn ar gael i feddygon teulu er mwyn iddynt gyfeirio eu cleifion yn hwylus ac yn gyflym, canfod canser y colon a'r rhefr ar gam cynnar, a sicrhau triniaeth ddilynol ar frys ac yn gyflym i'r rhai sy'n derbyn canlyniad cadarnhaol.
Nod ein prawf yw lleddfu pryderon cleifion â phrawf hynod gywir er mwyn tawelu meddyliau'r rhai nad oes canser ganddynt yn gyflym, a sicrhau nad oes angen colonosgopi mewnwthiol arnynt. O ganlyniad i hyn, bydd hyn yn rhyddhau adnoddau colonosgopi ac endosgopi gwerthfawr i'r rhai sydd â chanser, a gallai hyn i gyd arbed hyd at £265 miliwn y flwyddyn i'r GIG wrth leihau colonosgopïau diangen. Mae'r cwmni deillio CanSense Ltd wedi'i sefydlu i gael cyllid i ddosbarthu'r platfform profi gwaed. Mae ein hymchwil academaidd parhaus yn ehangu i ystyried potensial sgrinio a chymhwyso i fathau eraill o ganser.
Beth mae ein partneriaid yn ei ddweud
“Rydym yn falch o fod yn un o gyllidwyr y prosiect hwn sydd ar fin trawsnewid y ffordd y caiff canser y coluddyn yng Nghymru ei ddiagnosio. Mae angen y prawf hwn ar frys gan feddygon teulu i helpu i ganfod canser yn gynharach yn y pwynt cyswllt cyntaf mewn gofal sylfaenol ac mae’n enghraifft o arloesedd a grëwyd yng Nghymru a fydd yn darparu dyfodol gwell i gleifion canser. Ein huchelgais yw creu Cymru unedig yn erbyn canser drwy ymchwil o safon fyd-eang ac mae’r prosiect hwn yn dangos sut y gallwn gydweithio i fynd i’r afael â heriau allweddol a blaenoriaethau allweddol canser yng Nghymru a thu hwnt.”
Prif Swyddog Gweithredol, Ymchwil Canser Cymru