Cymorth unigol i chi
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn awyddus i sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn derbyn y gefnogaeth a'r cymorth priodol mae ganddynt hawl iddynt er mwyn cael profiad cadarnhaol o'r brifysgol.
“Mae’r tîm yn Abertawe wedi bod yn wych. Mae fy narlithwyr yn e-bostio cyflwyniadau PowerPoint at y tîm trawsgrifio ac maen nhw yn eu rhoi mewn dogfennau Word gall fy narllenwr sgrîn eu darllen i mi.” Jasmine Metcalfe (myfyriwr israddedig sy'n astudio Iaith a Llenyddiaeth Saesneg)
Cefnogaeth i ddysgu
- Mae ein staff addysgu’n brofiadol ac wedi derbyn hyfforddiant mewn cefnogi myfyrwyr ag anghenion penodol
- Mae Cydlynwyr Anabledd a Thimau Gwybodaeth Myfyrwyr ym mhob Cyfadran i drafod unrhyw bryderon sydd gennych
- Mae ein Canolfan Drawsgrifio yn darparu deunyddiau cwrs a llyfrgell yn y fformat mwyaf cyfleus i chi. Mae hyn yn cynnwys testun electronig, print bras, braille, ffeiliau pdf hygyrch, diagramau cyffyrddadwy, llyfrau sain DAISY, yn ogystal â thrawsgrifiadau print o recordiadau sain
- Efallai y bydd eich anghenion ychwanegol yn golygu y cewch recordio darlithoedd fel y gallwch astudio yn eich amser eich hun
- Gall ysgrifenwyr nodiadau, gweithwyr cymorth a sesiynau sgiliau astudio un i un fod ar gael