Rydym yn deall pan fydd rhywun yn gadael gartref ac yn dechrau yn y Brifysgol gall fod yn amser ansicr i bawb dan sylw, yn enwedig y rhai hynny ag anableddau iechyd meddwl, anabledd, cyflwr meddygol hirdymor neu anawsterau dysgu penodol.
Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig llawer o wasanaethau i gefnogi ein myfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau, a'u paratoi ar gyfer bywyd wedi hynny. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Canllaw i Gymorth a Chefnogaeth Ychwanegol ym Mhrifysgol Abertawe.
Os ydych yn poeni
Os ydych yn poeni, fe'ch anogwn i siarad yn uniongyrchol â'r myfyriwr a rhannu'r gwasanaethau niferus rydym yn eu cynnig â nhw.
Gallwch adrodd am bryderon am fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe drwy gwblhau ffurflen Pryder am Fyfyriwr Hwb. Mae'n bwysig darparu gwybodaeth fanwl a chywir i sicrhau y gall unrhyw bryderon gael eu hasesu a'u rhannu â phartïon perthnasol yn y brifysgol.
Mewn argyfwng
Ewch i'r dudalen we Cael Cymorth yn ystod Argyfwng os oes gennych bryderon.
Cyfrinachedd
O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogel Data (GDPR), nid ydym yn gallu rhannu gwybodaeth â rhieni oni bai fod myfyriwr wedi rhoi ei ganiatâd i wneud hynny’n benodol. Mae hyn yn cynnwys cadarnhau a yw unigolyn wedi defnyddio’r gwasanaeth neu beidio.
Nid ydym yn gallu cysylltu â myfyriwr neu orfodi myfyriwr i ddefnyddio ein gwasanaeth os yw rhiant neu unigolyn arall yn gofyn am hyn.