Bydd y Gwasanaeth Lles ac Anabledd ar gau dros gyfnod gwyliau’r gaeaf rhwng 24 Rhagfyr 2025 i 5 Ionawr 2026.
Bydd Ffurflen Cymorth Myfyrwyr ar gau rhwng 23 Rhagfyr 2025 i 5 Ionawr 2026.
Os oes angen cymorth arnoch chi yn ystod y cyfnod hwn, mae Adnoddau Hunangymorth ar gael ar ein tudalen we. Mae nifer o opsiynau cymorth eraill ar gael hefyd.
Student Space - Lle i fyfyrwyr addysg uwch gael cymorth, gan gynnwys cymorth drwy neges destun a sgwrs we gan wirfoddolwyr hyfforddedig, yn ogystal â gwybodaeth ac adnoddau i'ch helpu.
Togetherall - Gwasanaeth iechyd meddwl ar-lein am ddim lle gallwch gael cymorth yn ddienw 24/7 gan glinigwyr hyfforddedig, yn ogystal ag amrywiaeth o offer ac adnoddau defnyddiol. Mae'n lle diogel ar-lein i drafod eich pryderon, sgwrsio, mynegi eich meddyliau’n greadigol a dysgu sut i reoli eich iechyd meddwl.
Os teimlwch fod angen cymorth ar frys arnoch i ddatrys eich anawsterau, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch meddyg teulu, yn mynd i adran argyfwng eich ysbyty agosaf, neu’n ffonio GIG Cymru ar 111 i dderbyn unrhyw ofal a chymorth statudol y gallai fod eu hangen arnoch. Mae ein tudalen we Cymorth Mewn Argyfwng hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth.
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi neu os ydych chi'n pryderu am rywbeth, yn teimlo'n ofidus neu'n ddryslyd, neu os hoffech chi siarad â rhywun, gallwch chi gysylltu â'r Samariaid drwy ffonio 116 123 o'r Deyrnas Unedig, neu drwy e-bostio jo@samaritans.org