Mae’r Athro Andrew James Davies, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Ymarfer, wedi’i benodi’n Aelod o Gyngor ac yn Ymddiriedolwr Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain (BERA).
Gyda dros 2,500 o aelodau, BERA yw prif gymdeithas broffesiynol a chymdeithas ddysgedig ymchwil addysgol y DU. Mae’n cefnogi gwaith y gymuned ymchwil addysgol ledled y DU ac yn rhyngwladol, drwy feithrin gallu ymchwil, a thrwy hyrwyddo, cefnogi, ariannu a chyhoeddi ymchwil o ansawdd uchel. Mae BERA hefyd yn darparu cyfleoedd i ymchwilwyr gwrdd a chydweithio trwy ddigwyddiadau, y gynhadledd flynyddol BERA a'i Grwpiau Diddordebau Arbennig.
Wrth siarad am y penodiad hwn, dywedodd yr Athro Davies, ‘Mae BERA wedi bod yn ffynhonnell barhaus o gefnogaeth, arweiniad a chymuned broffesiynol i mi drwy gydol fy ngyrfa fel ymchwilydd addysgol. Mae’n fraint derbyn y rôl hon, ac i roi rhywbeth yn ôl.’
Dechreuodd yr Athro Davies yn ei rôl ym mis Medi 2024 am gyfnod o bedair blynedd.