Mae Dr Annie Tubadji, Athro Cynorthwyol ac Uwch-ddarlithydd mewn Economeg, wedi derbyn Medal Dillwyn (Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes) am ei gwaith ar duedd diwylliannol, anghydraddoldeb, a gwahaniaethu.
Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw'r academi genedlaethol ar gyfer y celfyddydau a'r gwyddorau, sy'n dod ag arbenigedd ynghyd o wahanol feysydd i rannu gwybodaeth a hyrwyddo ymchwil. Mae Medal Dillwyn yn dathlu rhagoriaeth ymchwil ar ddechrau gyrfa yng Nghymru.
Wrth gael ei holi am ennill y fedal, dywedodd Dr Tubadji:
"Dwi wrth fy modd fy mod i wedi cael fy anrhydeddu â medal Dillwyn, o’r holl fedalau posibl sydd ar gael!
Mae'r teulu Dillwyn wedi dangos drwy esiampl bod fy mhatrwm Datblygu Seiliedig ar Ddiwylliant (CBD) yn gweithio'n ymarferol: gan ddefnyddio celf a gwyddoniaeth fel offeryn, symudon nhw’r disgyrchiant diwylliannol ac economaidd o Lundain i Abertawe.
Rwy'n ddiolchgar am fod yn gysylltiedig â gwobr Dillwyn a Chymdeithas Ddysgedig Cymru"
Dyma oedd gan y Pennaeth Economeg, yr Athro Nigel O'Leary, i'w ddweud:
"Mae derbyn gwobr mor fawreddog yn anrhydedd ac yn gamp fawr. Mae'n amlygu enw da cynyddol Annie ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, a'r cyfraniad y mae hi'n ei wneud i ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol. Rwyf mor falch o gyflawniadau Annie, ac rwy'n hyderus y bydd hon yn garreg gamu i anrhydeddau y bydd yn eu hennill yn y dyfodol"