Nod Populo, cyfnodolyn i israddedigion a arweinir gan fyfyrwyr, yw cyhoeddi ac arddangos aseiniadau dosbarth cyntaf ardderchog megis traethodau, adroddiadau a thraethodau hir sydd wedi'u llunio gan fyfyrwyr ar gyrsiau'r Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Mae'r tîm golygyddol yn cyhoeddi dau rifyn o'r cyfnodolyn bob blwyddyn, gan gadw mewn cysylltiad â'r myfyrwyr sy'n ymwneud â'r cyfnodolyn drwy e-byst, cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan.
Mae'r broses a ddilynir gan y tîm golygyddol yn dechrau gyda chyhoeddiad i alw am bapurau, lle anogir myfyrwyr i gyflwyno eu haseiniadau dosbarth cyntaf i'w hystyried at ddibenion cyhoeddi. Pan fydd terfyn amser y cais am bapurau wedi cyrraedd, bydd y Prif Olygydd yn rhannu'r cyflwyniadau â'r tîm ehangach, gan gynnal cyfarfodydd lle ystyrir addasrwydd pob cyflwyniad. Yn dilyn hyn, llunnir rhestr fer a chysylltir yn uniongyrchol â myfyrwyr i roi gwybod iddynt am statws eu cyflwyniad yn ogystal â'r camau a gymerir ar sail yr adborth a ddarperir. Ar ôl i bopeth gael ei gadarnhau, bydd y Prif Olygydd yn fformatio'r cyflwyniadau gyda'i gilydd yn yr un ddogfen, gan ychwanegu tudalennau ychwanegol yn ôl yr angen megis y dudalen gynnwys a nodyn terfynol, ac yn paratoi'r gwaith i'w gyhoeddi.
Mae'r cyfnodolyn wedi cael ei ail-frandio’n ddiweddar er mwyn ei wneud yn fwy atyniadol a modern i fyfyrwyr. Mae Megan, Prif Olygydd Populo, wedi creu tudalen cyfryngau cymdeithasol newydd, gwefan sy'n cysylltu'n uniongyrchol â Phrifysgol Abertawe, ynghyd â chyflwyno cynllun lliwiau a logo newydd a gwneud y cyfnodolyn yn fwy hygyrch a gweledol atyniadol drwy gyfleusterau ar-lein FlippingBook.
Mae Megan Salter, myfyrwraig bresennol sy'n astudio Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol a Phrif Olygydd cyfnodolyn Populo, wedi dweud wrthym:
“Mae hi wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint go iawn bod yn Brif Olygydd Populo yn ystod y flwyddyn academaidd hon, yn ogystal â chael y cyfrifoldeb am adfywio'r cyfnodolyn ar ôl bwlch o ddwy flynedd. Rwyf wedi bod mor frwd am y prosiect hwn gan fy mod i'n credu y dylai pobl sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau gael eu dathlu, ac mae Populo yn ffordd wych o sicrhau bod aseiniadau ardderchog yn cael eu hedmygu.
Drwy gydol fy rôl, rwyf wedi llwyddo i feithrin amrywiaeth o sgiliau y bydd modd eu defnyddio at lawer o ddibenion eraill. Er enghraifft, rwyf wedi arfer fy sgiliau cyfathrebu a rhwydweithio'n helaeth, ac i'r un perwyl, rwyf hefyd wedi dysgu am fformatio ac argraffu. Mae'n annhebygol y byddwn i wedi gallu meithrin y ddealltwriaeth honno fel arall.
Rwyf hefyd wedi cael y pleser o gyd-drefnu digwyddiad ail-lansio gwych i'n cyfnodolyn lle gwnes i gwrdd â rhai o'r bobl sy'n cyfrannu at y cyfnodolyn a staff academaidd allweddol wyneb yn wyneb. Yn ogystal, ces i'r cyfle i draddodi araith yn y digwyddiad, gan fynegi fy niolchgarwch.”
Ewch i dudalen we Populo lle gallwch gael rhagor o wybodaeth a darllen rhifynnau'r gwanwyn a'r haf a gyhoeddwyd yn ddiweddar: https://myuni.swansea.ac.uk/cy/cyfadrannau/cdgc/gc/populo/