Cyfle arall i wneud cais i'ch hoff gwrs
Gallwch wneud cais drwy UCAS Extra o 26 Chwefror tan 4 Gorffennaf eleni. Os nad ydych wedi cael unrhyw gynigion ar ôl y dyddiad hwn, byddwch yn dal i allu gwneud cais am le yn y brifysgol drwy glirio.
Gallwch wneud cais drwy UCAS Extra o 26 Chwefror tan 4 Gorffennaf eleni. Os nad ydych wedi cael unrhyw gynigion ar ôl y dyddiad hwn, byddwch yn dal i allu gwneud cais am le yn y brifysgol drwy glirio.
Os ydych yn gymwys, bydd y botwm "Add Extra Choice" i'w weld yn awtomatig yn adran "Choices" ar eich tudalen tracio UCAS.
Pwyntiau Allweddol:
Gallwch ddefnyddio Extra hyd yn oed os gwnaethoch gais am le yn y brifysgol drwy UCAS yn wreiddiol, os ydych wedi defnyddio'ch holl geisiadau ac nid oes unrhyw gynigion gennych. Does dim gwahaniaeth os na chawsoch unrhyw gynigion gan eich pum dewis cyntaf neu ddewis peidio â’u derbyn, os nad ydych wedi sicrhau lle ar unrhyw gyrsiau ac os nad ydych yn aros am unrhyw benderfyniadau, gallwch wneud cais drwy UCAS Extra.
Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, wrth i Ysgolion Meddygol ddechrau gwneud penderfyniadau yn dilyn cyfweliadau, rydym yn cael ymholiadau gan fyfyrwyr meddygol ynghylch sut y gallai ein Llwybrau at Feddygaeth eu helpu i gyflawni eu dyheadau i ddod yn Feddyg
Rydych yn ychwanegu dewis Extra at eich Hwb UCAS. Os ydych yn gymwys, byddwch yn gweld yr opsiwn 'Add an Extra choice' yn yr adran 'Your choices'. Bydd angen i chi glicio ar y ddolen hon a nodi manylion y brifysgol a'r cwrs - yna bydd UCAS yn rhannu manylion eich cais â'r brifysgol honno.
Mae'n hawdd ychwanegu dewis arall gan ddefnyddio Extra:
Yn eich cais cychwynnol, gallwch wneud ceisiadau i bum prifysgol/cwrs (os hoffech wneud cais am ddau gwrs yn yr un brifysgol, bydd hyn yn cyfrif fel dau o'ch pum dewis). Pan fyddwch wedi clywed gan bob un o'r rhain, gallwch nodi dewis cadarn ac yswiriant, gan wrthod eich cyrsiau eraill.
Oes, ond allwch chi ddim gwneud cais am fwy nag un cwrs ar y pryd drwy Extra, felly peidiwch â rhuthro i wneud cais am y cwrs cyntaf sydd o ddiddordeb i chi - cymerwch amser i gael mwy o wybodaeth am y cwrs a'r brifysgol.
Does dim uchafswm i nifer y cyrsiau y gallwch wneud cais amdanynt drwy Extra, ond allwch chi ddim gwneud cais am fwy nag un ar y tro, felly fyddwch chi ddim yn gallu nodi dewis cyntaf a chynnig yswiriant fel yn y rownd gyntaf o geisiadau.
Os nad ydych wedi clywed gan gwrs ar ôl gwneud cais amdano drwy Extra, a hoffech wneud cais am un arall, gallwch dynnu cais Extra yn ôl unrhyw bryd, ond mae'n werth cysylltu â'r brifysgol neu'r coleg yn gyntaf i wneud yn siŵr nad oes cais ar y ffordd i chi.
Os ydych yn derbyn cynnig drwy Extra, rydych yn ymrwymo i'r brifysgol honno neu'r coleg hwnnw a bydd gennych le yn y sefydliad hwnnw os ydych yn bodloni amodau ei gynnig. Os nad ydych yn bodloni amodau ei gynnig, byddwch yn gymwys ar gyfer Clirio yn awtomatig.
Ni allwch wneud cais drwy Glirio oni bai nad oes gennych unrhyw gynigion, felly, byddai rhaid i chi ofyn am gael eich rhyddhau o'ch dewis cadarn cyn gallu gwneud cais drwy Glirio. Ond gall hyn gymryd hyd at 10 niwrnod ac ni fydd modd i chi newid eich meddwl, felly mae'n bwysig meddwl yn ofalus cyn ymrwymo.
Os nad ydych yn sicrhau lle drwy Extra, peidiwch â phoeni - bydd lleoedd ar gael drwy'r broses Glirio sy'n agor ar y 5ed o Orffennaf.