PEIRIANNEG FECANYDDOL
Mae Peirianneg Fecanyddol yn golygu dylunio a chynhyrchu pethau mewn amrywiaeth o sectorau, o’r sector modurol, awyrofod a chynhyrchu pŵer i adennill deunyddiau crai, ailgylchu a mwy. Peirianneg ar gyfer y byd modern yw hon, sy'n golygu nad yw'n gofyn i chi dorchi llewys a gwisgo oferôls. Mae'n ddisgyblaeth sydd ar flaen y gad o ran technoleg, gyda mwy a mwy o ddiwydiannau newydd a datblygol yn dibynnu arni.
Os wyt ti'n unigolyn creadigol sydd â diddordeb mewn dylunio a chymhwyso Mathemateg a Ffiseg i greu canlyniadau ymarferol, yna mae Peirianneg Fecanyddol yn ddelfrydol i ti.
Yma yn Abertawe, byddi di mewn dwylo da, am ein bod yn arwain y byd ym maes Dulliau Cyfrifiadol, sy'n ddeniadol iawn i fyd diwydiant. Yn ogystal â bod yn berthnasol yn ddiwydiannol, mae ein harbenigedd yn golygu ein bod yn ddeniadol iawn fel adran Peirianneg Fecanyddol sy'n hyfforddi graddedigion cystadleuol, rhywbeth sy'n amlwg o'n hystadegau cyflogadwyedd.