Mae Adran y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe ar Gampws Parc Singleton. Ar lefel israddedig, rydym yn cynnig cyrsiau mewn Bioleg, Sŵoleg a Bioleg y Môr. Mae'r cyrsiau hyn i gyd wedi'u hachredu gan Gymdeithas Frenhinol Bioleg.Mae ein hymchwil yn cynnwys Ecoleg Ymddygiadol a Symudedd, Ecoleg Esblygiadol a Moleciwlaidd, Pysgodfeydd a Dyframaeth, Ecoleg Poblogaethau a Chymunedau, Bioleg Organeb Gyfan a Rheoli Afiechydon Bywyd Gwyllt a Phlâu. Rydym yn cydweithredu â sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i weithio ar brosiectau sy'n helpu i wella bywyd o dan y dŵr ac ar y tir.
Biowyddorau
Archebwch Ddiwrnod Agored
