Astudiaethau Americanaidd, BA (Anrh)

Gallwch astudio diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth America

mount rushmore

Trosolwg o'r Cwrs

Mae deall yr Unol Daleithiau, ei hanes, ei llenyddiaeth, ei gwleidyddiaeth a'i diwylliant, yn golygu deall y grymoedd byd-eang sy'n llywio'r byd cyfoes.

Mae Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnig archwiliad manwl i chi o wlad fwyaf dylanwadol yr oes fodern, o'i gwreiddiau trefedigaethol i heriau cyfoes. Mae'r radd ddeinamig hon yn mynd i'r afael â materion byd-eang dybryd fel hawliau sifil, cyfiawnder hiliol, a thwf yr asgell dde newydd.

Bydd gennych yr hyblygrwydd i lunio'r radd hon yn seiliedig ar eich diddordebau, boed hynny mewn diwylliant poblogaidd America, actifiaeth wleidyddol, y cyfryngau, ymfudo, neu bolisi tramor. Gallwch hefyd dreulio semester neu flwyddyn academaidd lawn yn astudio yn yr Unol Daleithiau neu yng Nghanada, gan gael mewnwelediad uniongyrchol gwerthfawr i gymdeithas Gogledd America.

Pam Astudiaethau Americanaidd yn Abertawe?

Mae ein rhaglen Astudiaethau Americanaidd yn cael ei haddysgu ar ein campws trawiadol ym Mharc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ac ar gyrion Penrhyn Gŵyr, ac mae ganddi enw da iawn ymhlith cyflogwyr.

Mae ein cydnabyddiaeth genedlaethol yn amlwg, gan ein bod yn cael ein dyfarnu ar hyn o bryd:

  • Yn yr 2il safle yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Rhagolygon Graddedigion (Complete University Guide 2026).
  • Yn y 3ydd safle yn y Deyrnas Unedig am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)
  • Yn y 6ed safle yn y DU yn gyffredinol (Complete University Guide 2026), gyda
  • Sgôr o 100% ar gyfer Boddhad Cyffredinol (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025)*

*Astudiaethau Americanaidd ac Awstralasiaidd, Cwestiwn 28, Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025

Eich Profiad Astudiaethau Americanaidd

Mae ein cwricwlwm yn eang ac yn hyblyg, gan eich galluogi i archwilio pynciau amrywiol fel hil a rhywedd, mudiadau cymdeithasol, hanes milwrol, trefoli, cerddoriaeth boblogaidd, ac actifiaeth wleidyddol.

 

Byddwch yn elwa o ddull rhyngddisgyblaethol sy'n dwyn ynghyd hanes, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a diwylliant gweledol, gan eich annog i dynnu cysylltiadau ar draws disgyblaethau ac ymgysylltu'n feirniadol â themâu cymhleth.

 

Mae addysgu yn cael ei lywio gan ymchwil arloesol sy'n rhychwantu ystod eang o themâu hanesyddol a diwylliannol; yn sgîl Rhyfel Cartref America a datblygiad sinema mud, i ffyniant mynegiant diwylliannol Americanaidd-Affricanaidd yn ystod Dadeni Harlem. Mae hefyd yn archwilio cymhlethdodau polisi tramor a phŵer niwclear yr Unol Daleithiau yn yr 20fed ganrif, yn ogystal â sut mae ffuglen gyfoes yr Unol Daleithiau yn cael ei thrawsnewid gan gemio a diwylliant digidol.

 

Ceir cymuned gref i’r rhaglen, ynghyd â chyfleoedd i ymuno â chymdeithasau, gan gynnwys y Gymdeithas Astudiaethau Americanaidd dan arweiniad myfyrwyr, sy'n cynnal digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol drwy gydol y flwyddyn.

 

Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfleoedd i ymgymryd â semester neu flwyddyn dramor, sy'n cael eu treulio yng Ngogledd America neu yng Nghanada, gan eich galluogi i ymdrochi yn y diwylliannau y byddwch chi'n eu hastudio a gwella eich dysgu a'ch dealltwriaeth, yn ogystal â chynnig profiad amhrisiadwy.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan roi i chi brofiad gwerthfawr o'r gweithle. Mae'r Brifysgol yn eirioli dros leoliadau gwaith â thâl sydd ar gyfartaledd dros £20,000.   Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Er mai'r myfyriwr sy'n gyfrifol am sicrhau lleoliad gwaith, rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau sy'n darparu ystod o gyfleoedd lleoliad gwaith. Mae myfyrwyr hefyd yn cael eu cefnogi drwy gydol eu taith cyflwyno cais gyda chyngor, arweiniad ac adnoddau ychwanegol. Os nad ydych chi'n sicrhau lleoliad erbyn diwedd ail flwyddyn eich astudiaethau, cewch eich trosglwyddo i'r rhaglen radd gyfatebol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Astudiaethau Americanaidd

Mae gan radd Astudiaethau Americanaidd Prifysgol Abertawe enw da iawn ymysg cyflogwyr ac mae'n cael ei chyfoethogi yn sgîl cyfleoedd i astudio dramor neu dreulio blwyddyn mewn diwydiant, sy'n rhoi hwb sylweddol i'ch profiad yn y brifysgol a'ch rhagolygon gyrfa.

Mae'r radd yn meithrin meddylwyr a chyfathrebwyr amryddawn, rhinweddau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi mewn ystod eang o ddiwydiannau. Gyda'i phwyslais ar ddadansoddi beirniadol, creadigrwydd, a chyfathrebu clir, mae'r radd Astudiaethau Americanaidd yn arfogi graddedigion â sgiliau trosglwyddadwy sy'n agor y drws i lawer o yrfaoedd.

Mae ein graddedigion yn ffynnu mewn sectorau sy'n cynnwys:

  • Addysg
  • Marchnata a chyfathrebu
  • Llywodraeth a pholisi
  • Y cyfryngau ac ymchwil
  • Digwyddiadau a rheoli diwylliannol

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

ABB-BBC

Astudiaethau Americanaidd

Astudiaethau Americanaidd gyda Blwyddyn Dramor

Astudiaethau Americanaidd gyda Blwyddyn mewn Diwydiant