Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth, BA (Anrh)

Gallwch feithrin sgiliau trosglwyddadwy gan astudio gwleidyddiaeth a hanes USA

students speaking together

Nid yw'n rhy hwyr i ddechrau astudio gyda ni ym mis Medi / Hydref.

Ewch i’n tudalennau Clirio am fwy o wybodaeth.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae astudio Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth yn golygu dysgu am ddiwylliant, hanes a gwleidyddiaeth y wlad fwyaf dylanwadol yn y byd, ochr yn ochr â gwleidyddiaeth Prydain ac Ewrop, polisi cymdeithasol, theori wleidyddol ac athroniaeth.

Mae ein cwrs gradd BA tair blynedd yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa cyffrous drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt.

Byddwch yn cael cyfle i astudio hanes, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a diwylliant America, o wladychu i arlywyddiaeth Donald Trump, ac amrywiaeth o bynciau gwleidyddol o rethreg ac athroniaeth hynafol i ryfel a rhyfela yn y byd modern.

Pam Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth yn Abertawe?

Mae pwnc Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi'i leoli ar gampws godidog Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr. 

Mae Astudiaethau Americanaidd yn Abertawe:

  • 3ydd yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Times Good University Guide 2025)
  • Y 5 uchaf yn y DU am Ansawdd y Dysgu (Times Good University Guide 2025) 
  • 2il yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2025)
  • 3ydd yn y DU am Foddhad Myfyrwyr(Complete University Guide 2026)
  • 100% Boddhad cyffredinol myfyrwyr (NSS 2025)*

*Astudiaethau Americanaidd ac Awstralasiaidd, Q28, NSS 2025

Mae Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn:

  • Y 15fed safle yn y Deyrnas Unedig o ran Rhagolygon Graddedigion (Complete University Guide, 2026)
  • 7fed yn y DU ar gyfer llais myfyrwyr (NSS 2025) -  asesu o dan 'Gwleidyddiaeth'**

**yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol fesul pob thema yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Eich Profiad Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth

Rydym yn cynnig cynnwys cwrs amrywiol a hyblyg, felly gallwch lywio eich cwrs gradd mewn Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth mewn ffordd sy'n gweddu i'ch diddordebau eich hun.

Ymhlith y pynciau mae ffilmiau Americanaidd, cerddoriaeth, hil, rhywedd, ymfudo a threfoli, hanes cymdeithasol, economaidd a milwrol, terfysgaeth, neu hawliau sifil a phrotest wleidyddol; gwrthdaro a heddwch, democratiaeth, gwleidyddiaeth, athroniaeth, cysylltiadau rhyngwladol, diogelwch rhyngwladol, polisi cyhoeddus neu economi wleidyddol.

Caiff yr addysgu ei lywio gan ein hymchwil ryngddisgyblaethol sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang mewn amrywiaeth eang o feysydd pwnc, o hawliau sifil, polisi tramor UDA, y Rhyfel Oer i Ryfel Cartref America, ffuglen gyfoes UDA a Dadeni Harlem.

Bydd gennych tiwtor personol a all roi unrhyw gymorth bugeiliol neu academaidd sydd ei angen arnoch, ac mae Cymdeithas y Myfyrwyr Astudiaethau Americanaidd yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth

Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn fel arfer yn meithrin sgiliau llafar ac ysgrifennu rhagorol a byddwch yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadau mewn amrywiaeth o fformatau, ynghyd â sgiliau ymchwilio, dadansoddi a datrys problemau cadarn.

Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys:

  • Addysg
  • Marchnata
  • Y Llywodraeth
  • Ymchwil
  • Rheoli digwyddiadau

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn cyflwyno hanes, gwleidyddiaeth, diwylliant a llenyddiaeth America i chi, yn ogystal â gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.

Wedyn, byddwch yn dewis eich llwybr gyda modiwlau sy'n gweddu i'ch diddordebau, cyn canolbwyntio'n fanwl ar eich dewis brosiect ymchwil er mwyn ysgrifennu eich traethawd hir terfynol.

Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth

Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth gyda Blwyddyn Dramor